大象传媒

Ateb y Galw: Nici Beech

  • Cyhoeddwyd
Nici beechFfynhonnell y llun, Iolo Penri

Y cynhyrchydd teledu, bardd a'r trefnydd digwyddiadau Nici Beech sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon ar 么l iddi hi gael ei henwebu yr wythnos diwethaf gan Gwyneth Glyn

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Dw i'n cofio cael p诺 ar lawr ein 'stafell fyw yn Llandrillo yn Rhos, ar garped lliw coch 芒 phatrwm iddi. O bosib y tu 么l i soffa. Ro'n i tua 3 oed ar y pryd. Mewn picnic ar draeth Trecastell yn ddiweddar mi wnaeth merch fy ffrind, sydd bron yn 3 oed, wneud p诺 ar y tywod, a fi a'i gododd a'i gladdu efo rhaw fach blastig yn bell o olwg pawb.

Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?

Mab i ffrindiau fy rhieni oedd fymryn yn h欧n na fi - roedd rhaid i mi guddio pan ddaeth o i'r t欧! Wedyn y "Principal Boy" mewn panto Ryan Davies yn Abertawe. Ro'n i'n licio John Taylor, Duran Duran, wedyn, cyn i mi weld Hefin Huws yn canu efo Maffia ar lwyfan Pafiliwn Corwen.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dw i ddim yn cywilyddio rhyw lawer, mae poeni ymlaen llaw yn ddigon drwg!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Tua chwarter i un ar Fai 14eg. Roedd G诺yl Fwyd Caernarfon yn ei anterth, m么r o bobl ym mhob man ac yn amlwg yn llwyddo. Do'n i heb gael brecwast na chinio a welais i Rhian Haf a'i babi a chael sgwrs fer efo hi - a thorri lawr efo'r holl emosiwn.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Nici yn un o drefnwyr G诺yl Fwyd Caernarfon yn ddiweddar

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, gormod o lawer, gan gynnwys gorweithio mae'n debyg.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caernarfon. Heb os. Mewnfudwraig ydw i ers 1994 a dw i heb fyw yn y dre ers 1998, ond fan'na mae fy mywyd. Mae 'na gymaint o bethau yn digwydd yma a dw i'n edrych mlaen at weld y dref yn llawn eto ar gyfer mewn mis.

Dw i'n hoffi Caerdydd ac mi fues i'n byw yno am gyfnod pan ro'n i'n gomisiynydd rhaglenni efo S4C, ond roedd bywyd y dre yn ormod o atyniad i mi aros yn y brifddinas.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yr un nesa'.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Teyrngar. Chwilfrydig. Bl锚r.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nici oedd 'Bardd y Mis' 大象传媒 Radio Cymru ym mis Rhagfyr 2015

Beth yw dy hoff lyfr?

Cwestiwn anodd iawn. Er cael fy magu ar aelwyd ddi-Gymraeg, bellach dw i'n darllen llyfrau Cymraeg yn bennaf. Dw i'n lwcus o Palas Print, Caernarfon, sy'n cynnal lansiadau a digwyddiadau efo awduron yn gyson.

Yr un dwytha' i mi brynu oedd 'The Greasy Poll' gan Mike Parker. Hanes ffraeth iawn ei ymgyrch i fod yn aelod seneddol Plaid Cymru Ceredigion yn 2015. Gwnaeth fy ng诺r a fi rannu'r llyfr ar ein gwyliau yn ddiweddar - peth prin! Wnes i lowcio 'Rhyd y Gro' gan Sian Northey mewn ychydig oriau ar yr un gwyliau - ardderchog.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Mewn sinema - 'Room' yn Pontio efo fy ffrind Non, oedd wedi gadael ei babi am y tro cyntaf. Lot fawr o grio.

Ar sgr卯n - yr un mwya' diweddar oedd 'Trainwreck', ar fy ngwyliau ar y laptop, ond wnes i syrthio i gysgu cyn y diwedd.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Elin Meredydd. Tydi hi ddim yn actores, mae hi'n artist gwych sy'n perfformio, ond mae 'na sawl un wedi tynnu cymhariaeth rhyngthon ni'n dwy a dwi'n si诺r fasa hi up for it. Mae fy Facebook request yn pending. Ond 'da ni'n siarad ar gyfryngau eraill.

Dy hoff albwm?

Un ola' Y Cyrff. Wedi tyfu fyny yn yr ardal efo nhw, roedd cael copi cynta' un yr albwm yn syth o b诺t car Ankst (Alun Llwyd a Gruff Jones) yn Heol Conwy, Caerdydd yn anhygoel o deimlad.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Does dim ffefryn gen i, dw i jest yn licio bwyta a choginio. Ar hyn o bryd dw i'n bwyta cymaint o frenhinllys 芒 phosib, coginio oen y gwanwyn a selsig ar y barbeciw a gratio moron a betys y gaeaf fel salad. Anaml iawn gawn ni bwdin adra; mae Steve yn hoffi crymbl a chwstard ond pethau siocled fydda'i yn eu dewis os awn ni allan.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dw i'n edmygu cymaint o bobl, ond dw i ddim yn meddwl faswn i isio bod yn neb arall ond fi. Pe cawn i fod yn fi arall am ddiwrnod mi faswn i'n gallu gwneud dwbl y gwaith ac ella wedyn y baswn i'n gallu rhoi amser rhydd i'r fi go iawn. Ac mi fasa Steve yn falch iawn o hynny!

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Mike Parker

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prosiect nesaf Nici ydy trefnu G诺yl Arall arall!