大象传媒

Ateb y Galw: Mike Parker

  • Cyhoeddwyd
Mike parkerFfynhonnell y llun, Marian Delyth

Yr awdur a'r darlledwr Mike Parker sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon wedi iddo gael ei enwebu gan Nici Beech.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Deffro ar glustog streipiog, yng nghefn y car ar y ffordd i Scarborough, ac yn clywed Mam a Dad yn sgwrsio yn y ffrynt. Mae e'n un o ychydig iawn o'm hatgofion ohonyn nhw gyda ei gilydd.

Pwy oeddet ti'n ei ffans茂o pan yn iau?

Canwyr arweiniol mewn grwpiau ar 'Top of the Pops', gan gynnwys Sham 69, Generation X, The Specials, Buzzcocks - a Showaddywaddy!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cyfaddef ffans茂o'r boi allan o Showaddywaddy.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

P'run o'r rhein oedd testun yr embaras i Mike?

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Tra'n edrych ar y newyddion ac yn clywed y stor茂au torcalonnus am y gyflafan mewn clwb hoyw yn Orlando, Fflorida.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dim ond arferion drwg, yn anffodus. Drwg, ond pleserus iawn.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llyn (dw i ddim yn rhannu ei enw) yng Ngwynedd; dw i'n mynd yna'n aml er mwyn nofio, darllen ac ymlacio. Mae'n berffaith, a bron neb arall yn mynd yna.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

O'r rheiny mewn dillad, yr 'Eurovision Song Contest' 1998 yn Birmingham. Gan fy mod i wedi g'neud sioe stand-yp amdano, wnes i dderbyn tocyn i'r digwyddiad mawr. Roedd e'n hileriys! Wedyn, roedd part茂on gan bob un gwlad oedd yn cystadlu ledled y ddinas, a wnes i grwydro o'u cwmpas nhw, ac yn dathlu efo pobl o bob man.

Mewn un ohonyn nhw (parti'r Ffindir, dw i'n credu), wnes i gusanu'r enillwr Eurovision 'na, y ddynes godidog drawsrwyiol Dana International ('Viva la diva...'). Dw i'n cofio gwegian adre trwy wawr y gwanwyn, yr adar yn canu, ac yn teimlo mor hapus a mor falch o Brum.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd cael cusan gan Mike yn goron ar y cwbl meddai Dana International ar 么l ennill yr Eurovision i Israel yn 1998

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Nid ar werth.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Capiau stabal. Yr unig opsiwn i ddyn canol oed 芒 phen moel.

Beth yw dy hoff lyfr?

'Waterlog' gan Roger Deakin - does neb wedi sgwennu mor lachar am nofio mewn afonydd a llynnoedd.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Yr Ymadawiad' yn sinema hyfryd Tywyn. Darn bach o 'Cardi Noir', gan yr un t卯m 芒 sy'n cynhyrchu 'Y Gwyll', ond roedd y ffilm yn well na'r gyfres deledu. Ffilm ardderchog ac atmosfferig iawn.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Dim ond achos 'dyn ni'n rhannu penblwydd, Brad Pitt. (Ond mae e'n dair blynedd yn h欧n na fi. Fel mae'n amlwg.)

Dy hoff albwm?

Dewis bron amhosib... 'Passionoia' gan Black Box Recorder yn ei wneud amdana i bob tro (ac yn cynnwys 'c芒n arbennig' fy nghariad a fi). 'Autobahn' gan Kraftwerk; 'Mwng' gan SFA; 'Stwff' neu 'Anomie-Ville' gan Llwybr Llaethog; 'Savage' gan Eurythmics.

Ar hyn o bryd, 'Pale Green Ghosts' gan John Grant. Wnes i ei weld o yn ddiweddar yng Nghaerdydd, am yr ail dro. Mae'n athrylith, yn dywyll a disglair ar yr un pryd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Hoff iawn o'r hors d'艙uvres, yn enwedig mewn bwytai Asiaidd. Ga i onion bhaji, chicken satay, aloo puri a salmon tikka 辫濒卯蝉?

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Salma Yaqoob, cyn-arweinydd y Blaid Respect: dynes mor ysbrydoledig.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Rhys Mwyn

Ffynhonnell y llun, Marian Delyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cyfrol ddiweddara' Mike 'The Greasy Poll' (y Lolfa) yn trafod y profiadau annymunol gafodd o tra'n ymladd sedd Ceredigion i Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 2015