Tata: Oedi yn y broses o werthu Port Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae'r 大象传媒 yn deall bod disgwyl i gwmni dur Tata gyhoeddi ddydd Gwener y bydd yna oedi yn y broses o werthu y rhan fwyaf o'r busnes yn y DU, gan gynnwys safle Port Talbot.
Er hynny, mae dal disgwyl y bydd y cwmni yn gwerthu'r busnes cynhyrchu dur arbenigol sy`n cyflogi 2,000 o bobl yn Harlepool, Rotherham a Stocksbridge.
De毛llir bod Tata bellach yn llai pryderus am geisio gwerthu ar frys, wedi cynnydd ym mhris dur, a sawl addewid o gymorth gan Lywodraeth y DU.
Ond dyw hi ddim yn glir eto beth fydd dyfodol dros 9,000 o weithwyr y cwmni.
Cam 'synhwyrol'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, y byddai oedi yn gam "synhwyrol".
Yn siarad cyn cyfarfod gyda Tata a'r Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid, dywedodd: "Mae'r brys oedd yn bodoli rhai wythnosau yn 么l wedi dod i ben yn rhannol oherwydd rhan yr undebau a'r llywodraeth mewn trafodaethau.
"Bydd Brexit yn cael effaith ac mae Tata eisiau ystyried hynny."