大象传媒

Galw am gofrestr ar 么l marwolaeth Dylan Seabridge

  • Cyhoeddwyd
Dynes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gladys Rhodes White sydd wedi ysgrifennu'r adroddiad

Mae adroddiad i farwolaeth bachgen 8 oed wnaeth farw o sgyrfi yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cofrestr o bob plentyn sydd yn cael addysg gartref.

Mae'r Adolygiad Ymarfer Plant yn dweud nad oedd Dylan Seabridge wedi cael unrhyw gysylltiad gydag asiantaethau fel doctoriaid, nyrsys ac athrawon o'r cyfnod pan oedd yn 13 mis oed.

Pwrpas adolygiad fel hyn yw edrych ar y gwersi sydd angen eu dysgu o'r achos.

Fe aeth Dylan yn s芒l yn ei gartref yn Sir Benfro ac fe fuodd farw yn 2011.

Casgliad y cwest oedd bod ganddo sgyrfi, afiechyd sydd yn digwydd oherwydd diffyg Fitamin C ac mae'n gyflwr hawdd i'w drin. Ond mae rhieni Dylan Seabridge yn anghytuno gyda chasgliad y cwest.

Dywed yr adroddiad fod nifer o bobl proffesiynol wnaeth rhoi tystiolaeth wedi disgrifio`r bachgen fel rhywun "anweledig".

Roedd yn cael ei addysgu gartref ond er bod pryderon wedi codi ddwywaith yngl欧n 芒'r teulu, heb gydweithrediad y rheini, doedd gan yr awdurdodau ddim hawl i weld Dylan.

Mae'r adroddiad yn argymell y dylai yna fod gofrestr i blant sydd yn cael addysg gartref yng Nghymru a bod hi'n bwysig siarad gyda'r plant a chofnodi eu safbwyntiau bob blwyddyn.

Ond mae nifer o deuluoedd sydd yn addysgu eu plant yn y cartref yn dadlau mai achos anghyffredin oedd hwn ac na ddylai arwain at gyflwyno cofrestr orfodol.

Dysgu gwersi

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn achos trist iawn ac mae'n hanfodol bod pawb sydd yn gweithio gyda phlant ac oedolion yn dysgu gwersi o'r adolygiad yma.

"Mi fyddwn ni yn edrych yn ofalus ar y canfyddiadau a'r ardaloedd lle mae lle i wella sydd wedi eu tanlinellu.

"Mi fydd hyn yn cynnwys edrych ar ein canllawiau ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i weld os oes yna lefydd y gallwn ni newid a gwella."