大象传媒

Cwmni 'risg uchel' wedi mynd i'r wal er nawdd o 拢3m

  • Cyhoeddwyd
Alcoa plant

Fe aeth cwmni o ardal Abertawe, oedd yn cynhyrchu nwyddau dur, i ddwylo'r gweinyddwyr er iddo gael gwerth 拢3m o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, yn 么l y corff sy'n goruchwylio gwariant cyhoeddus.

Rhoddodd y llywodraeth gefnogaeth i Kancoat, er i'w adolygiad ei hun nodi fod yna "risg uchel" iddo, a bod y cynllun busnes yn un "gwan ac anwadal".

Roedd adain fuddsoddi'r llywodraeth, Cyllid Cymru, eisoes wedi gwrthod rhoi buddsoddiad i'r cwmni oherwydd "lefel risg annerbyniol o uchel".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod achos Kancoat yn un "cymhleth" a'i bod "wedi cyflwyno nifer o newidiadau allweddol" ers hynny.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru'n dweud nawr bod angen i Kancoat dalu 拢2.6m yn 么l i'r Llywodraeth.

Gwaith Kancoat oedd gorchuddio stribedi metal 芒 dur er mwyn creu caniau bwyd a chynnyrch arall ar hen safle Alcoa ger Abertawe.

Cafodd y cwmni gymysgedd o fenthyciadau a nawdd gan y Llywodraeth rhwng Mai 2012 a Chwefror 2014 ond aeth i ddwylo'r gweinyddwyr ym Mis Medi 2014.

Yn 么l llefarydd ar ran y cwmni, fe aeth i drafferthion ar 么l ei chael hi'n anodd cynnal y cyflenwad dur.

Mae'r archwilydd yn nodi fod Llywodraeth Cymru wedi newid nifer o'u gweithdrefnau ers yr achos hwn, er mwyn "asesu ceisiadau am fenthyciad yn fwy trylwyr".

Ychwanegodd fod y Llywodraeth yn gallu "cymryd risg uchel weithiau er mwyn ceisio cefnogi a hybu'r economi Gymreig", a bod swyddogion yn cyfeirio at eu gwaith fel "y dewis olaf o fenthyciwr".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cyn-safle Alcoa ei osod ar les i Kancoat gan weinidogion o Lywodraeth Cymru

Bydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad nawr yn penderfynu a fyddan nhw'n gwrando ar dystiolaeth ar gasgliadau'r adroddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu adroddiad y Swyddfa Cyfrifon Cyhoeddus.

"Roedd ein penderfyniad i ddarparu benthyciadau busnes i Kancoat yn seiliedig ar yr amcan y byddai'r cymorth yn helpu i greu dros 30 o swyddi dros dair blynedd.

"O ganlyniad i nifer o ffactorau, 12 swydd newydd gafodd eu creu gan y prosiect, ac yn ei dro, fe gynyddodd hwn y 'gost am bob swydd' yn sylweddol.

"Roedd hwn yn achos cymhleth, fel ag y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ei gydnabod.

"Fel rhan o'n hymrwymiad i wella'n barhaus, rydym yn adolygu'n gweithrefnau'n gyson, ac ers yr achos hwn, rydym wedi cyflwyno nifer o newidiadau allweddol."