大象传媒

Pwy oedd Gwenynen Gwent?

  • Cyhoeddwyd

Pwy oedd 'Gwenynen Gwent' neu Arglwyddes Llanofer? Yr hanesydd Dr Elin Jones sy'n egluro pwy oedd y ddynes hynod hon a ddaeth i Gymru a syrthio mewn cariad 芒'n diwylliant:

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer

Pobl arbennig iawn ydy'r 'Cymry o ddewis' rheiny sy'n cwympo mewn cariad 芒 Chymru, gan ddewis treulio'u bywydau yma, ac ymdrwytho yn ein diwylliant a dysgu ein hiaith. O holl ddiwylliannau a ieithoedd y byd, a chyfoeth eu llenyddiaeth, dewisant Cymru. Dyma destun balchder i genedl fach!

Ac os bu 'Cymraes o ddewis' erioed, Augusta Hall oedd honno. Fe'i ganed yn Llanofer, ger y Fenni, ym 1802, i deulu cefnog a hanai yn wreiddiol o swydd Nottingham. Wrth iddi dyfu i fyny, clywai Augusta y Gymraeg o'i chwmpas, oherwydd roedd yr ardal yn Gymraeg ei hiaith yr adeg honno. Daeth hefyd i 'nabod pobl yr ardal ac i ddysgu am ddiwylliant Cymru. Ac yno yn Llanofer cwympodd mewn cariad 芒 Chymru.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Plas Llanofer Fawr, ble dysgodd Augusta Hall am y Gymraeg a diwylliant y Cymry am y tro cyntaf

Ond nid oedd hynny'n golygu na fyddai'n priodi dyn o gig a gwaed. Yn y cyfnod hwnnw roedd disgwyl i ferch briodi, a phriodi'n 'dda' - a dyna a wnaeth Augusta.

Yn Rhagfyr 1823 priododd Benjamin Hall, etifedd Abercarn, stad oedd yn ffinio 芒 Lanofer. Ac roedd syniadau a gwerthoedd Benjamin yn gweddu rhai Augusta i'r dim. Roedd gan y ddau gariad tuag at Gymru a'r Gymraeg oedd yn anghyffredin yn eu hoes, ac awydd i godi ymwybyddiaeth y Cymry eu hun o gyfoeth eu diwylliant.

Yr hen draddodiadau ar gof a chadw

Pan etifeddodd Augusta Llanofer aeth ati i hybu iaith a diwylliant Cymru mewn pob ffordd y gallai. Anogai ei gweision a morynion i siarad Cymraeg, mynnodd eu bod yn gwisgo'r wisg draddodiadol a bod hen wyliau ac arferion Cymru yn cael eu dathlu yn ei chartref ac ar ei stad.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwith: "Cymraes ieuanc wladaidd mewn dullwisgiad rhan ehang o wlad Gwent" + Dde: "Cymraeg ieuanc mewn dullwisgiad Ceredigion" - dyfrliwiau gan A Cadwaladr o lyfr a gomisiynodd yr Arglwyddes o wisgoedd traddodiadol Cymru

Byddai Augusta hefyd yn cystadlu mewn eisteddfodau, yn annog eraill i wneud, a bu hi a Benjamin yn weithgar iawn gydag eisteddfodau'r Fenni a chymdeithas Cymreigyddion y Fenni. Ceisiodd y ddau ddysgu Cymraeg hefyd, er does dim tystiolaeth iddynt lwyddo.

Ar ben hynny, ymchwiliodd Augusta i'r wisg Gymreig draddodiadol, gan wneud cofnod manwl ohoni yn ei holl amrywiadau mewn cyfres o luniau hardd sydd bellach yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol.

Cydweithiodd gyda Maria Jane Williams i gasglu a chofnodi alawon traddodiadol Cymru, a llwyddodd hefyd i brynu a diogelu holl bapurau Iolo Morganwg, sydd bellach hefyd yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol. Nid yw'n rhyfedd iddi gymryd yr enw barddol 'Gwenynen Gwent' sy'n disgrifio nid yn unig ei phrysurdeb a'i hegni, ond hefyd ei gallu i chwilio a chrynhoi trysor.

Disgrifiad,

Heledd Cynwal yn olrhain hanes un o arwresau'r ardal, yr Arglwyddes Llanofer.

Dadlau achos y Gymraeg

Tra roedd Augusta'n hybu diwylliant Cymru yn ardal y Fenni, roedd Benjamin yn dadlau achos y Gymraeg yn y Senedd, lle fu'n aelod o 1832 ymlaen. Ymgyrchodd i achub bywydau arweinwyr y Siartwyr ym 1840; beirniadodd gynnwys a chasgliadau'r adroddiadau hynny ar addysg yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 1847; dadleuodd dros hawl y Cymry i addoli yn eu hiaith eu hun.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dwy o delynorion teires Llanofer yn Eisteddfod Caerwys 1892, gafodd ei chynnal o dan nawdd Arglwyddes Llanofer

Erbyn heddiw, 'Big Ben' yn Llundain yw ei gofeb (bu'n gyfrifol am gomisiynu'r adeilad), ond mae'n haeddu cael ei gofio yn ei fro ei hun hefyd.

Un o hoff bethau Augusta oedd cerddoriaeth y delyn deires, ac roedd ganddi a'i g诺r eu telynor teulu - eto, yn un o hen draddodiadau Cymru. Mae Benjamin ac Augusta Hall bellach yn gorwedd ym mynwent eglwys St Bartolimeus ger plas Llanofer. Wrth eu hochr mae bedd eu telynor.

Yn ystod wythnos gyntaf mis Awst eleni pan fydd yr Eisteddfod yn y Fenni unwaith eto, a swyn y delyn a seiniau'r Gymraeg yn yr awyr yn Llanofer, byddai ysbrydion y 'Cymry o ddewis' hyn o'r hen amser yn siwr o lawenhau.

Os hoffech wybod mwy am Augusta Hall, bydd llyfr dwyieithog, 'Pwy oedd Gwenynen Gwent?/Who was Gwenynen Gwent?' yn cael ei lansio ar 1 Awst, ac mae darlithoedd amdani ym mhafiliynau Cymdeithasau 1 a 2 yr Eisteddfod gydol yr wythnos.