'Y dici芒u yw'r broblem fwyaf i les anifeiliaid'
- Cyhoeddwyd
Y dici芒u mewn gwartheg yw'r "broblem fwyaf" i wynebu iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru mewn cenhedlaeth, yn 么l Prif Filfeddyg Cymru.
Ar 么l 11 mlynedd yn y swydd, dywedodd yr Athro Christianne Glossop wrth 大象传媒 Cymru: "Does 'na ddim diwrnod wedi mynd heibio lle nad ydw i wedi bod yn canolbwyntio'n llwyr ar TB."
Fe amddiffynnodd ymdrechion Llywodraeth Cymru i frwydro'r clefyd, yn dilyn cyhuddiadau gan undebau ffermio eu bod yn "llusgo'u traed".
Yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, mae arweinwyr y diwydiant wedi galw eto am gynllun difa moch daear, gan honni y gallai'r sefyllfa bresennol olygu bod cytundebau masnach ar 么l Brexit mewn perygl.
Dangosodd ystadegau'r llywodraeth bod 8,103 o wartheg wedi'u lladd yng Nghymru o ganlyniad i'r dici芒u yn 2015 - cynnydd o dros chwarter ers 2014, pan gafodd 6,378 eu difa.
'Deall y clefyd'
Dadl yr Athro Glossop yw ei bod hi'n bwysig peidio beirniadu'r rhaglen i gael gwared 芒 TB ar un ystadegyn yn unig.
"Os y'n ni am ennill y frwydr, mae'n rhaid i ni ddeall popeth yngl欧n 芒'r clefyd," meddai.
"Ry'n ni'n ymchwilio yn ddyfnach i ffermydd sydd 芒 TB, ry'n ni'n profi yn galetach, ry'n ni'n defnyddio profion sy'n fwy sensitif a ry'n ni hefyd yn cymryd mwy o wartheg o'r system os y'n ni'n amau fod y dici芒u ganddyn nhw.
"Y bwriad yw trio cael yr haint mas o'r fferm cyn gynted 芒 phosib, ac oherwydd hynny, ry'n ni'n cymryd mwy o'r anifeiliaid ar hyn o bryd.
"Felly, mae niferoedd y gwartheg sy'n cael eu lladd yn cynyddu ond mae nifer y ffermydd 芒 TB hefyd yn disgyn."
Gostyngiad
Ers dechrau cynllun Llywodraeth Cymru i ddileu TB mewn gwartheg yn 2008 mae gostyngiad o 37% wedi bod mewn achosion newydd o'r dici芒u.
Dywedodd yr Athro Glossop bod oddeutu 5% o ffermydd yng Nghymru yn wynebu problemau ar hyn o bryd.
Ond mae'r clefyd yn effeithio ar rai ardaloedd yn llawer gwaeth nac eraill, gyda lefelau uwch o achosion yng ngorllewin y wlad ac ar hyd y ffin 芒 Lloegr.
Mae cynllun pum mlynedd o hyd i frechu moch daear yng ngogledd Sir Benfro wedi'i gohirio ar hyn o bryd ar 么l prinder byd-eang o'r brechlyn BCG.
Annog y llywodraeth i gefnu ar y cynllun mae'r undebau amaeth gan honni ei fod yn arbrawf "costus a diwerth".
Dywedodd yr Athro Glossop ei bod hi'n rhy gynnar eto i ddweud a oedd y cynllun wedi gweithio a ph'run ai byddai'r llywodraeth yn ei ailddechrau yn 2017.
"Os byddwn ni mewn sefyllfa i gael gafael ar frechlyn y flwyddyn nesa', yna fe fydd raid i ni ystyried a yw pumed flwyddyn o frechu mewn un ardal yn mynd i gynnig buddion sy' werth y gost," meddai.
'Chwalu cefn gwlad'
Mae'r dici芒u wedi taro fferm Gareth Richards yn Abergwili, Sir Gaerfyrddin, deirgwaith.
Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru Fyw bod ymdrechion y llywodraeth i gael gwared 芒'r clefyd wedi bod yn "ofnadwy".
"Wnawn nhw ddim cael gafael ar y broblem tan eu bod nhw'n fodlon taclo'r TB mewn bywyd gwyllt," meddai.
"Mae'n ormod o daten boeth wleidyddol, ac o'r herwydd, mae'n chwalu cefn gwlad Cymru'n llwyr."
Delio 芒'r broblem
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts: "Ry'n ni'n gwybod bod y dici芒u yn cynrychioli bygythiad sylweddol i ni yn nhermau allforion cig a llaeth, unwaith ein bod ni tu allan i'r UE, ac mae 'na risg go iawn y byddai'n statws TB presennol ni'n gweithio yn ein herbyn ni yn ystod trafodaethau masnach.
"Mae hyn yn golygu bod angen i ni ddelio 芒'r broblem ar frys, neu fe fyddwn ni'n peryglu holl drafodaethau'r DU ar fasnach ag Ewrop."
Fe fydd cynlluniau i ddifa moch daear yn dychwelyd i Loegr yn yr hydref, gydag arbrofion yn digwydd yn Sir Gaerloyw, Gwlad yr Haf a Dorset.
Bydd yr Athro Glossop yn annerch ffermwyr mewn seminar yn adeilad UAC ar faes y Sioe ddydd Mercher, gan s么n am yr ymdrechion i daclo TB.
Dywedodd Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths ei bod hi'n bwriadu gwneud datganiad ar y mater yn yr hydref, gan gydnabod ei fod yn bwnc sy'n peri pryder mawr i fyd amaeth.