大象传媒

Hanes Cymru: Cyfle i gyflwyno hanes ein gwlad yn yr ysgol

  • Cyhoeddwyd
Dr. Elin Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr. Elin Jones

Fe fydd yr Dr Elin Jones, Llywydd yr 糯yl ddydd Sadwrn, yn cyfeiro at y modd mae hanes Cymru yn cael ei ddysgu mewn ysgolion.

Mae'r hanesydd a'r academydd wedi cadeirio tasglu sydd wedi bod yn edrych ar y cwricwlwm hanes ar gyfer Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw gyflwyno newidiadau i'r cwricwlwm.

Dyma farn Ms Jones yngl欧n 芒'r gwendidau yn y ffordd mae'r pwnc yn cael ei drosglwyddo i ddisgyblion ysgol a'r cyfle meddai am newid go iawn.

Bu tuedd erioed i gymysgu 'Lloegr' a 'Phrydain', gan gymryd bod un yn gyfystyr 芒'r llall, ac mae hyn yn destun sbort i lawer. Bu Andy Murray'n 'Sgotyn surbwch' nes iddo ddechrau ennill pencampwriaethau, bellach mae'n destun balchder Prydain gyfan. Ac nid oes angen manylu ar y newid agwedd y cyfryngau tuag at d卯m peldroed Cymru yn ddiweddar...

Ie, dipyn o hwyl, ond mater arall pan ystyriwn effaith hyn ar y modd y cyflwynir hanes yn ein hysgolion. Beth mae 'Prydain' yn ei olygu i athrawon, tybed?

Mae cael cip ar Raglen Astudio Hanes yng nghwricwlwm newydd Lloegr yn adlewyrchu agwedd meddwl sy'n cymryd yn ganiatol bod Lloegr a Phrydain yn gyfystyron.

Mae cyfeiriadau at Brydain, ond prin yw'r sylw a roir i hanes unrhyw ran o Brydain ar wahan i Loegr. Rhaid i blant Cyfnod Allweddol 2 (7-11 mlwydd oed) ddysgu'n gyntaf am newidiadau ym Mhrydain o Oes y Cerrig i'r Oes Haearn. Daw'r Rhufeiniaid wedyn, a nodir Caerwent fel enghraifft o Romanisation of Britain- dyma'r unig gyfeiriad at Gymru.

Britain's settlement by Anglo-Saxons and Scots sy'n dilyn, ac yna'r ymladd am The Kingdom of England rhwng y Llychlynwyr a'r Eingl-Sacsoniaid. Nid oes cyfeiriad at y Llychlynwyr yn ymosod ar Iwerddon, yr Alban na Chymru. Mae hyn yn eithaf teg o ystyried mai cwricwlwm ar gyfer Lloegr ydyw, ond camarweiniol iawn felly yw'r cyfeiriadau ynddo at hanes Prydain.

Mae agweddau eraill ar hanes yn ofynnol hefyd yng Nghyfnod Allweddol 2, ond o edrych arnynt, teg yw dweud y bydd gan blant Lloegr ar ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol gynradd dipyn mwy o wybodaeth am Roeg glasurol nag am unrhyw ran o Brydain ar wahan i Loegr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Rhufeiniaid yw un o'r cyfnodau sydd yn cael eu dysgu yn y cwricwlwm newydd yn Lloegr ond dim hanes Cymru

Pan drown wedyn at Gyfnod Allweddol 3 (11 -14), cawn un cyfeiriad at Gymru: enghreifftir The English campaigns to conquer Wales and Scotland up to 1314 fel rhan o astudiaeth agoriadol ar ddatblygiad Eglwys, gwladwriaeth a chymdeithas ym Mhrydain rhwng 1066 a 1509.

Mae Cymru'n diflannu o hanes wedyn, ac er bod cyfeiriadau at yr Alban ac Iwerddon, daw'r rhain yng nghyd-destun goresgyiad gan Loegr. Dyma Raglen Astudio sy'n meithrin anwybodaeth o Gymru, yr Alban a'r Iwerddon fel ei gilydd, ac yn cyfiawnhau diffiniad cul iawn o Brydeindod.

Ond ar hyn o bryd mae cyfle arbennig gan athrawon Cymru. Mae TGAU Hanes newydd yn yr arfaeth, a chwricwlwm cyfan newydd i Gymru yn cael ei lunio ar yr un pryd - a hynny gan athrawon Cymru eu hun.

Am flynyddoedd lawer bu athrawon yn gaeth i'r hen gwricwlwm hanes a luniwyd yn wreiddiol ar strwythur un Lloegr. Ar ben hynny, doedd dim rhaid cynnwys unrhyw agwedd ar hanes Cymru yn y cwrs TGAU - er ei fod yn ofynnol i gynnwys elfen sylweddol o hanes Prydain (h.y. hanes Lloegr i bob pwrpas).

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Elin Jones yn dweud bod cyfle i athrawon ddysgu hanes Cymru 'o bersbectif Cymreig go iawn'

Profodd y diffyg sylw a statws i hanes Cymru yn y cyrsiau TGAU yn andwyol i statws hanes Cymru yng Nghyfnod 3. Wedi'r cyfan, os nag oedd hanes Cymru'n bwysig yn yr arholiadau cyhoeddus, a llwyddiant yn y rheiny mor bwysig yng ngolwg yr awdurdodau, pam y dylid gwastraffu amser dysgu arno? Onid fyddai'n well i ganolbwyntio ar yr hanes 'Prydain' oedd yn ofynnol yn y cyrsiau TGAU?

Ond nawr, gyda dyfodiad cwrs TGAU hanes newydd i Gymru, a chyda'r penderfyniad i lunio cwricwlwm newydd sbon, dyma gyfle unigryw i athrawon sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei gyflwyno o bersbectif Cymreig go iawn.

Bydd yn bosibl i wreiddio dysgwyr yn hanes eu bro eu hun, a rhoi cyfleoedd iddynt weld yr hanes hwnnw yn ei gyd-destun ehangach, nid yng nghyd-destun hanes Lloegr yn unig. Yn wir, dyma gyfle i gyfuno hanes a daearyddiaeth, a sicrhau bod y cenhedlaeth nesaf o gefnogwyr Cymru yn gallu gwahaniaethu rhwng Lloegr a Phrydain!