大象传媒

Ateb y Galw: Caryl Lewis

  • Cyhoeddwyd
caryl lewis

Yr awdures Caryl Lewis sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon ar 么l iddi gael ei henwebu gan Gareth F Williams yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Cael fy neffro ganol nos gan mam a oedd eisiau dangos rhyw eclips neu gomed neu rywbeth inni.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Mr Willoughby yn 'Sense and Sensibility' - oce, dyw e ddim yn berson go iawn ond dod dim gormod o ddewis ar fferm anghysbell.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Well gen i beidio 芒 dweud.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wythnos ddwetha wrth ysgrifennu stori fer.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe enillodd Caryl wobr Llyfr y Flwyddyn am y tro cyntaf yn 2005 gyda'i nofel 'Martha Jac a Sianco'

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n ffan o ddiod feddal befriog ddu. Dwi'n trio peidio ei yfed ond weithie dos dim byd arall yn gwneud y tro.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Top tir Hafodau yn edrych i lawr dros Cwm Rheidol. Dyna le wnaeth fy ng诺r a finnau ddywedd茂o.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae sawl noson dda wedi bod, ond yr un mwyaf diweddar oedd noson 1940au yn y t欧. Coctels, dillad, cerddoriaeth a bwyd o'r cyfnod.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Tri gair? Chi'n disgwyl i nofelydd ddefnyddio tri gair?

Beth yw dy hoff lyfr?

Tess of the d'Urbervilles.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe enillodd Caryl lewis wobr Llyf y Flwyddyn eleni am ei nofel 'Y Bwthyn'

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Mae gen i gasgliad o hen gotiau gwl芒n Cymreig o'r 50au a'r 60au. Mae rhywbeth braf am wisgo carthen!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Dwi ar ei hol hi efo ffilmiau ond Still Alice oedd un o'r rhai diweddara.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Gan fod ganddi wallt coch a chroen mor wyn 芒 fi - Julianne Moore.

Dy hoff albwm?

'Catch-Flame!' Paul Weller.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Pwdin - bob tro. Dwi'n hoff o goginio felly pan dwi'n mynd allan, dwi eisiau rhywbeth dwi'n methu ei wneud fy hun. Dwi ddim eisiau pwdin reis neu hufen ia- dwi eisiau gweld crefft!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dwi newydd ddechrau gwenyna a dwi'n ceisio dod i ddeall y grefft. Os fedren ni fod yn rhywun arall am y dydd, liciwn ni fod yn Wil Griffiths, gwenynwr adnabyddus yn ardal Aberystwyth. Mae ganddo dros hanner can mlynedd o brofiad. Peth braf fyddai edrych i mewn i'r cychod trwy ei lygaid ef.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Robat Gruffudd

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Caryl yn derbyn gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016 gan Alun Davies, Gweinidog yr Iaith Gymraeg