Enillydd cyntaf tlws Sbardun
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddwyd mai Llywelyn Elidyr Glyn o Lanllyfni, Caernarfon yw enillydd cyntaf Tlws Alun Sbardun Huws.
Roedd y tlws yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf eleni a hynny am g芒n wreiddiol ac acwstig ei naws.
Cyhoeddwyd yr enillydd mewn seremoni arbennig i anrhydeddu enillwyr cystadlaethau cyfansoddi cerddoriaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni ddydd Iau.
Mae'r enillydd yn derbyn Tlws Sbardun, sydd wedi'i gynllunio a'i greu gan yr artist Carwyn Evans, a 拢500. Mae'r Tlws a'r wobr ariannol yn rhoddedig gan wraig Sbardun, Gwenno Huws.
`Cyfansoddwr dewr`
Wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd Emyr Huws Jones ar ran ei hun a Bryn F么n, "Roedd y g芒n yma'n taro o'r gwrandawiad cyntaf. Mae geiriau gwych yma ac mae'r alaw yn ychwanegu atynt yn arbennig iawn."
"Mae'r cyfansoddwr wedi bod yn ddewr ac yn gelfydd i adael i'r alaw orwedd yn ei symlrwydd. Y math o beth y byddai Alun Sbardun Huws wedi ei wneud. "
Llew Blew oedd ffugenw Llywelyn Elidyr Glyn o Lanllyfni ger Caernarfon.
Fe fu'n llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor am flwyddyn, ac ers hynny mae wedi bod yn gweithio fel cymorthydd yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon.
Mae ef a'i ffrind Meredydd Wyn Humphreys wedi dechrau perfformio'u cyfansoddiadau eu hunain o dan yr enw 'Bwncath'.
Cyfansoddwr nodedig
Mae Cystadleuaeth Tlws Sbardun yn gwobrwyo c芒n wreiddiol ac acwstig ei naws, ac yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni.
Roedd Alun 'Sbardun' Huws yn un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig y blynyddoedd diwethaf, a'r bwriad yw cofio'i gyfraniad i fyd cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg.