大象传媒

Aneirin Karadog yn ennill Cadair Eisteddfod Sir Fynwy

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Aneirin Karadog, Prifardd Eisteddfod Sir Fynwy 2016

Aneirin Karadog o Bontyberem yw enillydd Cadair Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau.

Cafodd y gadair ei chyflwyno am ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau dan y teitl 'Ffiniau'. Y beirniaid oedd Tudur Dylan Jones, Cathryn Charnell-White a Meirion MacIntyre Huws.

Yn dilyn derbyn y gadair, dywedodd y Prifardd newydd: "Ymateb i sefyllfa'r flwyddyn ddiwethaf ydw i yn y cerddi hyn. O ran gwleidyddiaeth, stad y byd a pha fath o fyd dy'n ni'n ei adael i'n plant.

"Y neges yw 'ceisiwch wneud rhywbeth os allwch chi, ac efallai bod angen i ni uno i wneud hynny. Ar ein pen ein hunain rydyn ni'n ddiymadferth ond efallai, gyda'n gilydd, dy'n ni'n gryfach.

"Mae'r ffaith fod e'n wobr er cof am Dic Jones yn sicr yn ychwanegu'n fawr. Mae Dic yn un o fawrion, nid yn unig yr Eisteddfod, ond barddoniaeth Cymraeg yn ei gyfanrwydd."

'Tad Diymadferth?'

Denodd y gystadleuaeth naw ymgeisydd, ac wrth draddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan dywedodd Tudur Dylan Jones: "Tad Diymadferth? ydy'r ffugenw, efo marc cwestiwn ar y diwedd.

"Cerdd agoriadol y dilyniant ydy 'Gwyr a Aeth Catterick Barracks'. Tad sy' ma yn gyrru'i fab mewn car i fod yn filwr. 'Gyrru'i fab i gwr ei fedd/a'r gyrru'n ddidrugaredd.' Mae'r tad yn erbyn hyn, ond y mab yn benderfynol o fod yn filwr. Mae'r tad yn gweld y darlun cyflawn, ac yn gweld mai rhyfel sy'n achosi'r rhan fwyaf o broblemau'r byd fel newyn a sefyllfa'r ffoaduriaid sy'n gorfod croesi m么r i ddarganfod lloches. 'Meistri creulon yw'r tonnau, a'r ewyn yn dynn ei gadwynau, a'r heli'n cloi'r hualau oer o dd诺r nad yw'n rhyddhau.'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y bardd buddugol gyda'r Archdderwydd Geraint Llifon

'Ofnau dyfnaf' rhiant

Ychwanegodd Tudur Dylan Jones yn ei feirniadaeth: "Rydym ni'n gweld safbwyntiau gwahanol yn y cerddi, y tad, y mab, y ceiswyr lloches, y gwleidyddion, a mae 'na hefyd adlais bwriadol o awdl 'Y Gwanwyn' Dic Jones.

"Mae'r gerdd olaf, 'Dros blant ein plant' yn darlunio'r tad yn anobeithio fod ei fab yn gyfrifol am ladd pobl. Mae'n ei gweld hi'n anodd torri cylch dieflig rhyfel. Mae Tad Diymadferth? wedi rhoi llwyfan i rai o ofnau dyfnaf unrhyw riant. Maen nhw'n gerddi sy'n gwneud i ni feddwl. Maen nhw'n ein hannog ni i gyd i beidio 芒 bod yn ddiymadferth.

"Mae hi'n hanner can mlynedd ers i Dic Jones gael ei gadeirio yn Aberafan, a'r gadair fel y clywson ni yn cael ei rhoi er cof amdano gan Jean a'r teulu, a byddai Dic yn fwy na neb arall yn falch o glywed fod yma gadeirio, a bod y tri ohonon ni'n unfrydol yn dyfarnu fod Tad Diymadferth? yn gwbl deilwng o Gadair yr Eisteddfod."

Bardd a darlledwr

Mae Aneirin Karadog yn astudio am radd Doethur mewn ysgrifennu creadigol Cymraeg yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Mae hefyd yn gweithio fel bardd a darlledwr llawrydd. Fe'i ganed yn Llanrwst, ond treuliodd ei flynyddoedd cynnar ym Mhontardawe cyn i'r teulu symud i ardal Pontypridd lle cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydfelen.

Aeth ymlaen wedyn i raddio mewn Ffrangeg a Sbaeneg yn Y Coleg Newydd, Rhydychen. Taniwyd ei ddiddordeb mewn ieithoedd yn gynnar gan iddo gael ei fagu ar aelwyd amlieithog lle'r oedd ef a'i frawd yn siarad Cymraeg, Llydaweg a Ffrangeg.

Mae Aneirin wedi ennill amryw o wobrau am farddoni, gan gynnwys Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004, Cadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd yn 2005, a chystadleuaeth y delyneg yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 2011.

Fe enillodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, O Annwn i Geltia, y categori barddoniaeth yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2013 ac mae newydd gyhoeddi cyfrol newydd o gerddi, Bylchau.

Mae Aneirin yn talyrna gyda th卯m Tir Iarll a th卯m ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol, Y Deheubarth. Roedd yn Fardd Plant Cymru 2013-2015 a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi i blant y llynedd. Bu'n wyneb cyfarwydd ar raglenni teledu dyddiol Wedi 7 a Heno, ac ar raglenni Sam ar y Sgrin ac Y Barf. Bu hefyd yn rapiwr gyda'r grwpiau Hip-hop, Y Diwygiad, Genod Droog a'r Datgyfodiad.

Mae'n byw ym Mhontyberem gyda'i wraig, Laura, a'i ferch, Sisial, ac mae brawd neu chwaer fach i Sisial ar y ffordd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tudur Dylan Jones yn traddodi'r feirniadaeth - gyda Meirion MacIntyre Huws a Cathryn Charnell-White ar dde'r llun

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cadair Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 ger Cadair Eisteddfod Aberteifi 1966