大象传媒

Achub hen gerbyd llechi o waelod Llyn Padarn

  • Cyhoeddwyd
Divers with the wagonFfynhonnell y llun, Ceidiog Communications
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y deifwyr wnaeth lwyddo i achub y wagon

Mae aelodau clwb o ddeifwyr o Rosneigr Sir F么n wedi llwyddo i godi wagen lechi hanesyddol o waelod Llyn Padarn yn Llanberis.

Fe wnaeth y deifwyr ddefnyddio balwn enfawr i godi'r wagen yn ofalus o waelod y llyn.

Y nod nawr yw arddangos y cerbyd mewn amgueddfa leol, amgueddfa rheilffordd Llyn Padarn.

Y gred yw bod y cerbyd yn 110 oed ac iddo gael ei ddefnyddio i gludo llechi o chwarel Dinorwig i borthladd Y Felinheli.

Mae'n bedwar troedfedd o hyd ac yn dair troedfedd o led.

Cafodd rheilffordd Padarn ei hagor yn 1842 gan barhau mewn bodolaeth tan 1969 pan gaeodd y chwarel.

Dywedodd Rob Geal o Niwbwrch ac un o aelodau clwb deifio Rhosneigr: "Rhyw ddwy flynedd yn 么l fe aeth tua wyth o'n haelodau i Lyn Padarn a chanfod y wagon ar waelod y llyn, tua 20 metr dan y d诺r.

"Roedd pawb yn meddwl y byddai'n syniad i geisio ei adfer o waelod y llyn a tua dau fis yn 么l fe wnaethom ddechrau ar y gwaith cynllunio."

Ychwanegodd Mr Geal, sy'n beiriannydd sifil, fod yna lot o fwd a llaid ar waelod y llyn a bod hynny yn amharu ar faint oedd y deifwyr yn gallu ei weld.

Ffynhonnell y llun, Ceidiog Communications
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y cerbyd ar waelod Llyn Padarn

"Ond ar 么l tua phedair awr fe wnaethom lwyddo i godi'r wagon o'r llyn," meddai.

"Ar 么l ei archwilio fe wnaethom weld ei fod mewn cyflwr da, a bod yna fframiau siasi pren dal yn rhan o'r cerbyd.

"Oherwydd ein bod yn credu ei fod yn rhan o hanes yr hen chwarel fe wnaethom ei roi i gwmni Rheilffordd Llyn Llanberis, ac ar 么l ei archwilio roeddynt o'r farn oherwydd bod yna siasi pren ei fod yn un o'r cerbydau cynharaf, gan fod yr holl gerbydau ar 么l 1900 wedi eu gwneud yn gyfan gwbl o fetel."

Dywedodd Emlyn Pritchard, rheolwr Rheilffordd Llyn Llanberis, fod y cwmni wrth eu bodd o gael y wagon.

"Mae'n rhan o dreftadaeth y rheilffordd a'r ardal gyfan."

"Mae dal angen gwneud archwiliad llawn, ond o'i olwg ac o weld ei faint mae'n un o'r cerbydau oedd yn cael eu defnyddio ar yr hen linell rheilffordd.

"Rwy'n credu ei fod yn un o'r wagenau cyntaf i gludo llechi, oherwydd ei fod yn rhannol o bren."

Ffynhonnell y llun, Ceidiog Communications
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Deifwyr yn dod 芒'r wagon i lan y llyn.