大象传媒

Cwmni bysus o Geredigion yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd
bwsFfynhonnell y llun, Google

Bydd cwmni bysus Lewis Coaches o Lanrhystud, Ceredigion, yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan olygu bod 40 o swyddi yn y fantol.

Mewn neges ar eu gwefan, dywedodd y cwmni y byddant yn cau eu drysau am y tro olaf ar ddydd Gwener 12 Awst, a hynny o achos rhesymau busnes sydd tu hwnt i'w rheolaeth.

Mae'r cwmni wedi diolch i'w cwsmeriaid am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.

Yn y cyfamser mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd y gwasanaeth bysiau 701 rhwng Aberystwyth-Caerfyrddin a Chaerdydd yn dod i ben ddydd Gwener, a hynny am resymau 'nad oedd modd eu rhagweld'.

Cwmni Lewis Coaches sydd wedi bod yn gyfrifol am redeg y gwasanaeth hwn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod mewn cysylltiad agos a Chyngor Ceredigion.

"Mae ein trafodaethau hyd yma yn awgrymu fod y Cyngor mewn safle da i sicrhau fod y rhan fwyaf o wasanaethau yn parhau, gan gynnwys trafnidiaeth ysgol.

"Fe fyddwn yn parhau i gydweithio gyda'r cyngor dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf."

'Sicrwydd'

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Simon Thomas, A.C. Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru: "Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am sicrwydd i gwsmeriaid y llwybr bws rhwng Aberystwyth a Chaerdydd.

"Mae'r gwasanaeth bws 701 sydd yn rhedeg o Aberystwyth drwy Gaerfyrddin i Gaerdydd yn mynd drwy ganol fy rhanbarth. Rwyf hefyd wedi gofyn am y 40 o weithwyr sydd yn cael eu heffeithio wrth i Lewis Coaches gau ddydd Gwener.

"Rydym yn dibynnu'n llwyr yma yn y gorllewin ar wasanaethau bws i gynnig cysylltiadau dibynadwy rhwng ein cymunedau a galluogi gweithwyr, myfyrwyr ag ymwelwyr i deithio. Ni all cyswllt mor hanfodol gael ei adael i ddod i ben."