Gall adeiladu pont newydd dros y Fenai 'ddechrau erbyn 2021'
- Cyhoeddwyd
Gallai'r gwaith o adeiladu llwybr newydd i gerbydau ar draws y Fenai ddechrau erbyn 2021 os bydd yn derbyn caniat芒d, meddai Llywodraeth Cymru.
Fe fydd ymgynghorwyr yn cael eu cyflogi i edrych ar lwybrau posib rhwng Ynys M么n a'r tir mawr.
Bydd gwahanol ffyrdd o ariannu'r cynllun hefyd yn cael eu hystyried, er nad oes cyfanswm wedi ei osod ar gost y gwaith eto.
Mae Plaid Cymru wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud fod tagfeydd traffig yn yr ardal yn achosi anghyfleustra diangen i deithwyr.
Trydydd llwybr
Mae dwy bont yn croesi'r Fenai ar hyn o bryd, Pont y Borth gafodd ei hadeiladu gan Thomas Telford yn yr 1820au a Phont Britannia gafodd ei hagor yn 1850 i gludo trenau.
Cafodd ei hail adeiladu yn yr 20fed ganrif i gludo cerbydau hefyd.
Mae'r syniad o ddatblygu trydydd llwybr ar draws y Fenai wedi ei gynnig ers tro er mwyn lleihau'r tagfeydd ar y ddwy bont bresennol.
Yn 么l penderfyniad gan Lywodraeth Cymru, mae yr Ysgrifennydd Economi Ken Skates "wedi cytuno i benodi ymgynghorwyr technegol i ddatblygu cynllun y trydydd croesiad".
Mae hefyd wedi "penodi cyngor allanol i gynnig syniadau ar becynnau ariannu posib er mwyn ariannu'r cynllun".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ar hyn o bryd yn y broses o benodi ymgynghorwyr i ddarparu astudiaeth ar ddewis llwybrau posib ar gyfer trydydd llwybr dros y Fenai.
"Bydd hyn yn asesu nifer o ddewisiadau a chynlluniau ar gyfer y trydydd llwybr ac fe fydd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus.
"Fe allai'r gwaith adeiladu gychwyn yn 2021 yn dibynnu ar dderbyn y caniat芒d statudol angenrheidiol."
'Cwbl hanfodol'
Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards o Blaid Cymru ac arweinydd Cyngor Gwynedd ei fod yn "gwbl hanfodol fod llwybr newydd" dros y Fenai yn cael ei greu pan fydd cynllun Wylfa Newydd yn datblygu.
"Nid dim ond traffig arferol, ond fe fydd traffig cerbydau adeiladu hefyd," meddai, gan ychwanegu y byddai llwybr newydd yn cael ei groesawu gan bawb.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod y datblygiadau newydd i'w croesawu, gan ychwanegu: "Mae hwn yn gynllun yr ydym wedi bod yn frwd o'i blaid ers amser maith ond yn anffodus dydi o heb weld golau dydd o achos syrthni Llywodraeth Lafur Cymru ar y mater.
"Mae'r tagfeydd traffig presennol yn creu anghyfleustra diangen i deithwyr yn ddyddiol ac mae pryder yn barod am wytnwch y ddwy bont bresennol dros y tymor hir."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar yr Economi bod Llywodraeth Cymru "wedi gwneud dim" er i syniadau i leihau traffig gael eu cynnig ers 2007.
Dywedodd Russell George AC: "Nid yn unig yw'r traffig yn rhwystredig iawn i ddefnyddwyr y ffyrdd, ond mae hefyd yn rhwystr sylweddol i ddatblygiad economaidd Ynys M么n."
Ychwanegodd bod yr amser am gyhoeddiadau "ar ben" a bod angen "gweithredu nawr".