大象传媒

Statws Ewropeaidd arbennig i gregyn gleision Conwy

  • Cyhoeddwyd
Conwy mussels

Cregyn gleision Conwy yw'r cynnyrch bwyd diweddaraf i dderbyn statws gwarchodedig gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r statws yn cael roi i fwydydd sydd yn cael eu paratoi mewn modd traddodiadol neu arbenigol, neu'n cael eu cysylltu ag ardal penodol.

Yr Afon Conwy yw un o'r unig lefydd ble mae cregyn gleision yn dal i gael eu rhacanu 芒 llaw.

Ond mae ansicrwydd yngl欧n ag a fydd cynnyrch Cymru'n cadw'r statws yn dilyn y penderfyniad i adael Ewrop.

Ar hyn o bryd dim ond saith o gynnyrch bwyd a diod yng Nghymru sydd 芒 statws gwrachodedig arbennig gan gynnwys Cig Oen Cymreig, Halen M么n a thatws newydd Penfro.

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae'r statws yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid bod y cynnyrch yn un go iawn ac o safon uchel.

Codwyd pryderon yngl欧n 芒 dyfodol y statws cyn y refferendwm, ac ers hynny mae cynhyrchwyr o Brydain wedi galw am sicrwydd y bydd eu bwyd a diod yn cael eu hamddiffyn yn yr un modd ar 么l Brexit.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae cynllun Amddiffyn Enwau Bwydydd yr UE ar hyn o bryd yn cynnwys cynnyrch o du hwnt i'r UE, gan gynnwys rhai o China a Gwlad Thai, felly mae achos cryf dros drafod i sicrhau ein bod ni'n parhau'n rhan o'r cynllun."