大象传媒

Oes hiliaeth yn addysg Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Betty Campbell
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe dderbyniodd Betty Campbell MBE yn 2003 am ei chyfraniad i addysg ac i fywyd cymunedol

Mae 'na drafodaeth yn y Senedd ddydd Mawrth 20 Medi yn ymdrin ag hiliaeth yn y system addysg yng Nghymru. Mae elusen Dangos Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru yn galw ar "weithredu brys i atal y llanw cynyddol o agweddau hiliol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru". Yn 么l ffigyrau cafodd eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf, - ond pam?

Betty Campbell yw'r person du cyntaf i fod yn bennaeth ar ysgol yng Nghymru - ac hynny ar Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Nhrebiwt, Caerdydd.

Bellach wedi ymddeol, ond yn dal yn amlwg iawn yn ei chymuned ym Mhorth Teigr, mae Mrs Campbell yn poeni bod stigma yn dal i berthyn i athrawon croenddu.

"Yr unig beth alla i feddwl yw bod yna lawer o ragfarn yn dal o gwmpas a dydw i ddim yn meddwl bod gan bobl lawer o feddwl o athrawon du," meddai. "Nes i gymhwyso fel athrawes yn 1963, ond faint [o athrawon du] sydd wedi dod drwodd ers hynny?

"Rhagfarn yw e'n rhannol, ond mae hefyd yn anwybodaeth. Dyw pobl methu newid eu safbwyntiau o gwbl. Pan ddes i yn brif athrawes am y tro cyntaf roedd 'na staff yn yr ysgol oedd ddim eisiau gweithio 'da fi. Dwi'n credu ei fod e'n farn hiliol mewn sawl ffordd."

Diffyg anogaeth?

Gyda'i merch newydd ymddeol fel prif athrawes yn Llundain, ac ei hwyres yn ddirprwy brif athrawes yno hefyd, awgrymodd fod gan Gymru lawer o waith i'w wneud er mwyn cynnig yr un cyfleoedd.

"Nid pawb sydd eisiau mynd mewn i ddysgu - mae'n eitha' anodd y dyddiau yma," ychwanegodd Mrs Campbell, a fu'n gynghorydd sir ar 么l iddi ymddeol. "Os nad yw pobl yn gwneud cais i gael swydd - ydyn nhw'n cael eu denu i'r colegau lle mae rhywun yn dysgu'r grefft o fod yn athro?

"Yr oll wyddwn i yw 'mod i wastad wedi eisiau bod yn athrawes ac er fod tri plentyn gen i ar y pryd mi wnes hynny."

Ffynhonnell y llun, Walesonline.co.uk
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Betty Campbell yn croesawu y Tywysog Charles i Drebiwt ar Ddydd G诺yl Dewi 1994

Ond beth am brifddinas Cymru - yr ardal mwyaf amrywiaethol yn y wlad, ac ardal sy'n agos iawn at galon Mrs Campbell? Ydy Caerdydd yn arwain y ffordd i weddill Cymru? Dydy Mrs Campbell ddim mor si诺r.

"Roeddwn i'n gobeithio erbyn hyn y byddai 'na lawer mwy o athrawon du yng Nghaerdydd ond yn anffodus does dim llawer," meddai.

"Ond alla i ddim dweud beth yw'r prif reswm am hynny. Dwi'n credu bod rhywfaint o ragfarn ond yw pobl ddu yn cael eu hannog i geisio am y swyddi?"

Ffigyrau yn gyson

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i fod yn "ymroddedig i sicrhau fod athrawon yn gynrychiadol o'u cymunedau" ac eu bod yn "annog pobl o bob cefndir i ystyried gyrfa fel athrawon".

Ychwanegodd eu bod yn "edrych yn ofalus" ar ddarganfyddiadau adroddiad gafodd ei gyhoeddi'r llynedd ar ddyfodol y proffesiwn er mwyn sicrhau fod athrawon yn adlewyrchu'r bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Yn yr mae amryw o ddigwyddiadau hiliol wedi'u nodi gan fyfyrwyr ac athrawon ar hyd a lled y wlad dros y 12 mis diwethaf.

Roedd yr ymgynghoriad wedi amlygu "diffyg hyder, hyfforddiant a chefnogaeth ymhlith athrawon" i ddelio gyda'r fath achosion, meddai'r elusen.

Dywedodd Sunil Patel, Rheolwr Ymgyrch yr elusen: "Mae'n destun pryder mawr fod cwynion casineb hiliol wedi cynyddu'n sylweddol ers canlyniad y refferendwm UE, [ac] hiliaeth wedi bod ar gynnydd ar draws Cymru hyd yn oed cyn y bleidlais a'r adroddiadau negyddol cyson o fudwyr wedi ysgogi y drwgdeimlad."

Ffynhonnell y llun, Walesonline.co.uk
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Betty Campbell yn athrawes ifanc

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) fod y canran isel o athrawon o gefndir BME (Black and Minority Ethnic) wedi bod yn "gyson bob blwyddyn ers i gofrestru ddod yn orfodol" yn 2007.

Nid amharodrwydd athrawon ysgol i ddynodi eu bod o gefndir ethnig yw'r broblem medden nhw, ond yn hytrach y methiant i ddenu pobl i'r sector addysg.

"Dylid unrhyw sensitifrwydd neu norms celfyddydol sy'n sefyll yn y ffordd gael eu harchwilio, ac mae gwaith i'w wneud i adeiladu proffil positif gwell i ddysgu fel proffesiwn ar draws yr holl sectorau - ond fel mae'r data yn ei awgrymu, yn enwedig felly ymysg cymunedau o gefndiroedd ethnig lleiafrifol," meddai llefarydd CGA.

"Dylai hynny gynnwys ystod eang o grwpiau gan gynnwys llywodraeth leol a chenedlaethol, sefydliadau ymarfer dysgu, athrawon cymwysedig sydd o gefndiroedd ethnig, ac arweinwyr cymunedol dylanwadol.

"Mae gan y CGA r么l allweddol o ystyried ein bod yn rheolydd annibynnol gyda data unigryw am y gweithlu addysg yng Nghymru.

"O ystyried y tan-gynrychiolaeth cyson a sylweddol yma o grwpiau ethnig yn y gweithlu'n bresennol, a'r twf o amrywiaeth ym mhoblogaeth ein hysgolion, mae'n amser i ni fynd i'r afael 芒 hyn o ddifrif."