大象传媒

Diogelu fforest law 'maint Cymru' yn yr Amazon

  • Cyhoeddwyd
Fforest lawFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd ardal o goedwig drofannol, tua'r un maint 芒 Chymru, yn cael ei diogelu gyda chymorth elusen Gymreig.

Mae sefydliad Maint Cymru wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru eu bod wedi casglu digon o gyfraniadau gan y cyhoedd i sefydlu prosiect newydd ym Mheriw.

Ynghyd 芒 gwaith sydd eisoes yn digwydd yn Guyana gerllaw, mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd tua dau filiwn hectar o fforest law drofannol ym masn yr Amazon yn cael ei ddiogelu.

Daw'r newyddion tra bod sylw'r byd wedi'i hoelio ar y rhanbarth gyda'r Gemau Olympaidd a Pharlympaidd yn Rio de Janeiro, Brasil.

Ffynhonnell y llun, Tom Griffiths/FPP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Maint Cymru yn helpu cymunedau brodorol, fel y Wapichan yn Guyana

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Maint Cymru, Lowri Jenkins bod coedwig law yr Amazon wedi darparu "cefndir trawiadol" i'r Gemau eleni, gan dynnu sylw at ddau fygythiad mawr - newid hinsawdd a digoedwigaeth.

Fel rhan o'r prosiect newydd mae trefnwyr Gemau Olympaidd Rio wedi addo plannu coeden ar gyfer bob athletwr sy'n cymryd rhan.

Trwy weithio mewn partneriaeth ag elusen arall yn Ne America bydd y prosiectau hefyd yn rhoi cefnogaeth i grwpiau brodorol gan eu helpu yn eu hymdrechion i sicrhau hawliau cyfreithiol i'w tiroedd a'u coedwigoedd traddodiadol.

'Prosiectau newydd'

Dywedodd Ms Jenkins: "Ry'n ni ar ben ein digon i gael dweud ein bod ni'n helpu diogelu ardal o fforest law drofannol maint Cymru yn Ne America.

"Ry'n ni hefyd wrthi'n edrych ar brosiectau newydd yn Affrica, fyddai'n golygu y bydd Cymru yn diogelu ardal maint ei hun ar ddau gyfandir, sy'n gyrhaeddiad anhygoel i ni fel cenedl."

Cafodd Maint Cymru ei lansio yn 2010 gyda chymorth gan Dywysog Cymru. Bellach mae'n derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru a chyfraniadau o fusnesau Cymreig a'r cyhoedd.

Ffynhonnell y llun, FPP