大象传媒

Lansio ymgynghoriad ar ddyfodol ffermio yn dilyn Brexit

  • Cyhoeddwyd
SheepFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd un o bwyllgorau'r Cynulliad yn gofyn am farn pobl yngl欧n 芒 sut i gefnogi'r diwydiant amaeth yng Nghymru yn sgil Brexit.

Dywedodd y Pwyllgor Materion Gwledig y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd ysgogi'r newid mwyaf mewn 40 mlynedd yn y diwydiant.

Ar hyn o bryd mae ffermwyr Cymru'n derbyn 拢250miliwn y flwyddyn mewn cymorthdaliadau o'r UE, yn ogystal 芒 拢500m dros chwe blynedd ar gyfer datblygu cefn gwlad.

Mae undeb yr NFU eisoes wedi lansio ymgynghoriad ymysg eu haelodau eu hunain, gan ddweud y dylai gadael Ewrop ymysg ffermwyr.

Dywedodd AC UKIP Mark Reckless, cadeirydd y pwyllgor, y byddai'n "gyfle i ailstrwythuro polisiau amaethyddol a chefn gwlad... yn arbennig ar gyfer anghenion Cymru.

Mae disgwyl i'r ymgynghoriad holi:

  • Beth mae pobl am ei weld o ganlyniad i bolis茂au ffermio;

  • Pa wersi y mae modd eu dysgu o bolis茂au'r presennol a'r gorffennol, yng Nghymru a thu hwnt;

  • A ddylai Cymru dorri ei chwys ei hun neu rannu polisi cyffredinol 芒 gweddill y DU.

"Wrth lunio polis茂au newydd, mae angen i'r canlyniadau ar gyfer pobl Cymru gael eu hesbonio a'u deall yn glir," ychwanegodd Mr Reckless.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol