大象传媒

Galw i ddatganoli'r pwerau i godi oed cyfrifoldeb troseddol

  • Cyhoeddwyd
Steffan Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Steffan Lewis bod angen datganoli pwerau ar gyfiawnder i Gymru

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi galw am drafod codi oed cyfrifoldeb troseddol, gan awgrymu y dylid ei godi o 10 i 12 mlwydd oed.

Dywedodd Steffan Lewis y gallai newid y polisi fod yn un o'r manteision o ddatganoli pwerau ar gyfiawnder i Gymru.

Ar hyn o bryd, San Steffan sydd 芒'r cyfrifoldeb am y system gyfiawnder yng Nghymru.

Ond mae AS Sir Fynwy, David Davies wedi beirniadu'r syniad.

'Canllawiau rhyngwladol'

Dywedodd Mr Lewis, sy'n llefarydd ei blaid ar gyfiawnder troseddol: "Mae troseddau difrifol yn anghyffredin i blant, ond wrth gwrs, gall fod yn ddinistriol i'r dioddefwyr.

"Dylai'r ffocws fod ar ddiogelu ein cymunedau, ond yr ateb yw peidio gwneud ein plant yn droseddwyr, a hwythau mor ifanc."

Ychwanegodd bod Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn "wedi ei gwneud hi'n amlwg bod cael oed cyfrifoldeb troseddol yn llai na 12 mlwydd oed yn annerbyniol".

"Dylai'r gyfraith gael ei newid i gydymffurfio gyda chanllawiau rhyngwladol cyn gynted 芒 phosib," meddai Mr Lewis, gan alw am drafodaeth gyhoeddus ar godi'r oed cyfrifoldeb troseddol i 12.

Ychwanegodd: "Pe bai'r cyfrifoldeb am gyfiawnder yn cael ei ddatganoli, byddwn yn gallu gwneud hynny a chydymffurfio 芒 chanllawiau rhyngwladol."

Galwadau eisoes

Fe wnaeth Comisiwn Silk awgrymu datganoli cyfrifoldeb am gyfiawnder pobl ifanc yn 2014.

Ond gwrthodwyd y syniad gan Lywodraeth y DU, ac nid yw wedi'i gynnwys yn Mesur Cymru, sy'n gwneud ei ffordd trwy'r Senedd ar hyn o bryd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd David Davies na fyddai o blaid codi oed cyfrifoldeb troseddol

Dywedodd yr AS Ceidwadol, Mr Davies, nad yw eisiau gweld cyfrifoldeb am gyfiawnder pobl ifanc yn cael ei ddatganoli, gan ddweud bod problemau'n gallu codi pan fo polis茂au gwahanol yn cael eu defnyddio yng Nghymru o'i gymharu 芒 Lloegr.

"Os yw pobl yn troseddu mewn un lle ac yn byw yn y llall mae'n debygol o achosi pob math o broblemau cyfreithiol," meddai.

Dywedodd hefyd na fyddai o blaid codi oed cyfrifoldeb troseddol.

"Mae plant 10 ac 11 oed wedi troseddu'n ddifrifol, ac rwy'n meddwl bod angen iddyn nhw fynd trwy'r system cyfiawnder troseddol," meddai.

"Ni fyddai'r bechgyn wnaeth ladd James Bulger wedi'u cael yn euog pe bai'r oed cyfrifoldeb troseddol yn 12."

Roedd Robert Thompson a Jon Venables yn 10 oed pan wnaethon nhw lofruddio James Bulger ger Lerpwl yn 1993.

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gwrthod cais 大象传媒 Cymru am sylw.