Ymladd yn atal g锚m b锚l-droed yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr p锚l-droed yn derbyn triniaeth mewn ysbyty yn dilyn digwyddiad treisgar mewn gem b锚l-droed yn Llanllyfni, Gwynedd.
Roedd CPD Llanllyfni yn chwarae yn erbyn Prestatyn Sports FC pan ddigwyddodd yr ymladd.
Mae'r ddau glwb p锚l-droed wedi cadarnhau y bu nifer o chwaraewyr yn ymladd yn ffyrnig, ac fe aeth rhai cefnogwyr ar y cae.
Fe gadarnhaodd y ddau glwb hefyd bod un chwaraewr o glwb Prestatyn wedi cael ei arestio, a bod un o chwaraewyr Llanllyfni wedi cael ei gludo i'r ysbyty i gael triniaeth.
Bu'n rhaid i'r dyfarnwr atal y g锚m yn llwyr wrth i'r heddlu gael eu galw i'r digwyddiad.
'Ofnadwy'
Dywedodd Ysgrifennydd Llanllyfni Kim Warrington wrth Cymru Fyw: "Roedd e'n ofnadwy. Dwi erioed wedi gweld peth fel hyn. Roedden nhw fel pack of wolves."
Cadarnhaodd y clwb bod un o'u chwaraewyr wedi cael archwiliad pelydr x ar 么l iddo gael ergyd i'w ben.
Yn 么l Ysgrifennydd CPD Prestatyn Sports David Jutson: "Dyma'r tro cyntaf erioed i mi weld cefnogwyr ar y cae yn ymladd."
Dywedodd bod y rhan fwyaf o'r chwaraewyr yn ymladd, a sawl cefnogwr.
"Fe aeth un o'u chwaraewyr nhw i'r ysbyty, ac fe ddaeth yr heddlu ac arestio un o'n chwaraewyr ni."
Yn 么l CPD Llanllyfni roedd dau o'r cefnogwyr wedi mynd ar y cae i helpu un o'r chwaraewyr.
Dywedodd y clwb bod sawl chwaraewr wedi gadael y safle cyn i'r heddlu gael cyfle i'w holi.