大象传媒

Y C么r sy'n methu canu

  • Cyhoeddwyd
Jess Davies-Timmins a Mei Gwynedd sydd y tu 么l i g么r mwya' anarferol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jess Davies-Timmins a Mei Gwynedd sydd y tu 么l i g么r mwya' anarferol Cymru

Cymru ydy gwlad y g芒n medden nhw. Ond nid pawb ohonom ni sy'n medru canu mewn tiwn a mae rhai o'r nodau 'na ddaw allan o'n gwefusau ni yn ddigon i wagio unrhyw 'stafell. Er hynny mae 'na gynlluniau ar droed i sefydlu c么r yn benodol i bobl sydd ddim yn medru canu.

Jess Davies-Timmins o Dreganna yng Nghaerdydd sydd y tu 么l i'r fenter newydd a'r cerddor adnabyddus Mei Gwynedd fydd yr arweinydd dewr fydd yn ceisio rhoi trefn ar tua 30 o 'gantorion' yn ymarfer cyntaf C么r Di D么n Caerdydd ar nos Sul 11 Medi.

Bu Jess a Mei yn s么n mwy wrth Cymru Fyw am y datblygiad anarferol:

Nodau fflat

"Dwi'n methu canu o gwbl," meddai Jess sy'n wreddiol o'r Barri, "ond dwi wrth fy modd yn gwneud carioci a phetha fel 'na gyda fy ffrindiau.

"Un tro mi wnaeth fy ng诺r, Joe, brynu gwersi canu i fi ond roedd yr athrawes yn dweud fy mod i'n ofnadwy a bod y profiad iddi hi fel dysgu plentyn.

"Ro'n i'n gweithio i'r Gymdeithas Wirfoddol Brydeinig (RVS) ac roedd ganddyn nhw ymgyrch 'Sing Your Heart Out'. Roedd hwn yn annog corau i ddod at ei gilydd i helpu'r gymuned. Wnes i feddwl, 'sut y gall y rhai ohonom ni sy'n methu canu gymryd rhan?' Tra'n ymchwilio mi wnes i ddod ar draws hanes c么r di d么n yn Nottingham.

"Doedden nhw ddim yn gallu canu o gwbl ond roedden nhw wrth eu boddau ac yn caru canu er bod 'na ambell i nodyn digon fflat. Maen nhw wedi cael cryn lwyddiant yn canu caneuon fel 'Bohemian Rhapsody' gan Queen a 'Daydream Believer' gan The Monkees felly feddylies i - 'beth am sefydlu c么r tebyg yma yng Nghaerdydd?'"

Ychwanegodd: "Ro'n i'n digwydd bod yn 'nabod Mei Gwynedd gynt o Big Leaves a'r Sibrydion ac yn gw'bod am ei waith yn sefydlu'r . Ddechreuon ni siarad am y peth a'r dydd Sul yma bydd yna ddiwedd ar y siarad a dechrau o ddifri' ar y canu!"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Mei ddigon o amynedd i ddysgu dechreuwyr i chware'r ukulele ond sut hwyl gaiff o gyda phobl sy'n methu canu?

'Dim angen bod yn swil'

Mae Mei yn edrych ymlaen at yr her, ac yn addo na fydd 'na ffenestri yn cael eu torri yn ardal Treganna nos Sul!

"Mae'n dilyn ymlaen o'r gwaith dwi wedi ei wneud gyda'r Gerddorfa Ukelele a dweud y gwir," meddai. "Hanner y peth ydy codi hyder unigolion a'u cael nhw i ganu. Bydd yr holl ymarfer yn anffurfiol a does dim angen i neb fedru darllen cerddoriaeth ac ati.

"Yn y dechrau y bwriad ydy rhoi cynnig ar ganeuon gweddol syml fel 'My Girl' gan y Temptations. Dwi'n gobeithio y gallwn ni roi cynnig ar ganeuon Cymraeg maes o law. Ar 么l 'chydig o sesiynau dwi'n gobeithio y gallwn ni symud ymlaen i ganu hen glasuron fel 'Calon L芒n' a 'Sosban Fach'.

"Does dim angen bod yn swil," meddai. "Dim ond y ni sydd rhwng y pedair wal yn y gampfa yn Nhreganna fydd yn clywed y canu. 'Dwi wedi gweithio ar a nes i ddysgu bois Clwb Rygbi Crymych i ganu fel rhan o brosiect Pethau Bychain, felly mae mentrau cymunedol fel hyn yn apelio. Gobeithio y bydd y C么r Di D么n yn gymaint o hwyl."

Mae Jess yn gobeithio y bydd y c么r yn taro deuddeg gyda nifer o bobl Caerdydd gafodd eu gwrthod o gorau'r ysgol pan yn iau neu sy'n credu bod ganddyn nhw leisiau sy'n gwagio 'stafelloedd.

"Mae'r c么r yn Nottingham wedi canu efo Wynne Evans ac mewn gemau criced, felly pwy a 诺yr be' sy'n bosib? Mae tua 30 o 'gantorion' wedi dweud y bydda nhw yng nghampfa Aspire yn Nhreganna nos Sul, ond wrth gwrs mae 'na groeso i fwy o bobl droi lan. Peidiwch a bod yn swil - mae 'na obaith i ni gyd!"

Am ragor o wybodaeth am sut i ymuno gyda C么r Di D么n Caerdydd ewch i'w

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mei wedi cael cryn lwyddiant ar roi arweiniad i gerddorion ifanc ond fydd 'na ganu soniarus rhyw ddiwrnod gan y C么r Di D么n?