大象传媒

Gofal yn y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae byw gydag anghenion dwys yn ddigon anodd fel mae hi, heb s么n am orfod wynebu anhawsterau cyfathrebu yn eich iaith gyntaf.

Dyma un o'r heriau sy'n wynebu Gwion Lloyd o Gaerdydd. Bu ei chwaer, Elin, sy'n 20 oed, yn siarad am ei phrofiadau gyda Cymru Fyw:

Cyfathrebu'n hyderus

Mae gen i frawd sydd yn meddwl y byd i mi - mae'n 28 oed. Ond, mae ein perthynas ni ychydig yn wahanol i'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl.

Mae Gwion yn byw gydag anghenion dwys. Mae ganddo Syndrom Down, mae'n ddall ac yn ei ffeindio hi'n anodd cyfathrebu, yn enwedig drwy gyfrwng y Saesneg gan ein bod ni yn deulu iaith gyntaf Cymraeg.

Gallwn ni ddim diolch digon i'r gofalwyr sydd yn dod i'w edrych ar 么l e bob dydd. Mae'r gofal y mae fy mrawd yn ei dderbyn yn ddyddiol yn wych ac yn galluogi i fy rhieni allu gweithio.

Ond, mi fyddai cael gofalwyr sydd yn medru'r Gymraeg yn galluogi Gwion i gyfathrebu tipyn yn fwy hyderus yn ei iaith gyntaf.

Er bod y gofalwyr yn ceisio gwneud bywyd Gwion yn haws wrth ymdrechu i ddysgu geiriau allweddol yn y Gymraeg fel 'diod' a 't欧 bach', mae Gwion yn ei chael hi'n anodd iawn siarad a deall Saesneg.

Mae hyn ar brydiau yn gallu bod yn rhwystredig iddo, ac ar adegau mae'r gofalwyr yn gallu camddeall beth mae Gwion yn ei ddweud yn llwyr. Er enghraifft, un tro pan oedd e allan gyda'i ofalwyr roedd Gwion yn gofyn i fynd yn 么l i'r t欧, ond roedd y gofalwyr yn meddwl ei fod yn gofyn am baned o de.

Byddai cael gofalwyr sydd yn medru'r Gymraeg yn rhoi mwy o hyder i mi a fy nheulu bod anghenion a gofynion fy mrawd yn cael eu clywed. Hefyd, mae'n bwysig bod yr eirfa gyfyngedig sydd ganddo yn gallu cael dylanwad positif ar ansawdd ei fywyd, a bod ganddo rywfaint o reolaeth ar rediad ei ddydd.

Swahili, ond dim Cymraeg

Mae cael gofalwyr Cymraeg i Gwion hyd yn oed yn fwy pwysig ar yr adegau pan mae angen gofalwyr dros nos er mwyn i Gwion deimlo'n gyffyrddus ac yn gysurus yng nghwmni pobl sydd ddim yn rhan o'i deulu agos.

Rydym ar hyn o bryd yn ceisio dod o hyd i ofalwyr addas o'r math, ac er ein bod wedi cyfweld 芒 nifer o bobl, nid oes un ohonyn nhw hyd yn hyn yn medru'r Gymraeg, er bod un ohonyn nhw'n rhugl yn Swahili!

Testun gofid i mi yw, os nad ydyn ni'n gallu derbyn y ddarpariaeth drwy'r Gymraeg ym mhrifddinas ein gwlad, pa obaith sydd yna mewn trefi a phentrefi llai?

Er y gofid, dwi wedi dod i ddeall bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Chyngor Gofal Caerdydd, ac yn cydnabod y broblem.

I orffen ar bwynt cadarnhaol, mae nifer fawr o bobl ifanc yn ysgolion dwyieithog y De Ddwyrain yn astudio iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, a'r gobaith yw y bydden nhw yn dewis gweithio yn y sector gofal, gan fod y sgiliau ieithyddol perthnasol ganddyn nhw.

Felly, rwy'n gobeithio gweld newid er gwell yn y dyfodol agos.