大象传媒

Galw am ddysgu Penyberth fel rhan o hanes Cymru

  • Cyhoeddwyd
Penyberth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lewis Valentine, Saunders Lewis a DJ Williams

Fe ddylai hanes llosgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth fod yn rhan o unrhyw astudiaeth addysgol ar hanes Cymru, medd awdur llyfr ar y cyfnod.

Arwel Vittle yw awdur 'Cythral o D芒n', sy'n cael ei ystyried yn un o'r llyfrau mwyaf cynhwysfawr ar hanes y llosgi ym Mhen Ll欧n ym 1936. Fe hefyd yw awdur 'Valentine: Cofiant i Lewis Valentine'.

Mae hi'n 80 mlynedd union ers i Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams fynd i ffermdy Penyberth ger Pwllheli i losgi'r 'Gwersyll Bomio', oedd yn cael ei adeiladu fel rhan o baratoadau Prydain ar gyfer yr Ail Ryfel Byd.

"Roedd yr effaith byr dymor yn ddramatig," meddai Mr Vittle wrth Cymru Fyw. "Doedd neb wedi gweithredu yn enw Cymru ac wedi mynd i'r carchar ers dyddiau [Owain] Glynd诺r.

"Roedd 'na brotestiadau fel Merched Beca a Rhyfel y Degwm wedi bod, ond dim byd fel hyn ers cof."

Ffynhonnell y llun, ALAN FRYER
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cofeb Penyberth, gafodd ei dadorchuddio adeg hanner can mlwyddiant y llosgi

Ond yn ogystal 芒'r effaith byr dymor, mae Mr Vittle yn dweud fod brwydr y tri wedi dylanwadu ar hanes yr iaith Gymraeg yn yr hir dymor, gan gynnwys yr hawl cyfreithiol i ddefnyddio'r iaith mewn llysoedd.

"Roedd 'na effaith uniongyrchol ar ddefnyddio'r Gymraeg yn y llysoedd barn," meddai.

"Arweiniodd hynny at ddeddf yn 1942 lle roedd hawl cyfyngedig i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn y llys."

Mae Mr Vittle o'r farn ei fod yn bwysig nad yw'r cyfnod yn mynd yn angof.

"Fyset ti'n gobeithio y bydd mwy o hanes Cymru yn cael ei ddysgu yn yr ysgolion, ac mae hon yn bennod bwysig yn hanes y mudiad cenedlaethol yng Nghymru.

"Dylai fod o'n rhan o unrhyw astudiaeth am hanes Cymru."

Cwricwlwm newydd

Wrth ymateb i'r alwad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan Gymru ddiwylliant ac etifeddiaeth werthfawr, ac mae'n bwysig fod pob disgybl yn cael y cyfle i ddysgu am hanes ein cenedl.

"Mae modd i ddisgyblion ymchwilio i'n diwylliant drwy hanes fel rhan o'r cwricwlwm presennol, sy'n rhoi hyblygrwydd i athrawon ddewis y pynciau manwl, y cydbwysedd rhwng hanes lleol a hanes Cymru, y dyfnder astudiaeth a'r dull o ddysgu.

"Wrth edrych ymlaen, rydym yn gweithio ar raglen ddiwygio uchelgeisiol a radical ym myd addysg.

"Rydym eisiau darparu cwricwlwm eang, cytbwys, cynhwysol a heriol i'n pobl ifanc fydd yn gallu eu helpu nhw i fod yn ddinasyddion cyflawn sy'n barod i'r oes fodern. Ein nod yw cyflwyno'r cwricwlwm newydd erbyn 2021."