大象传媒

Gemau Paralympaidd: Y fedal Gymreig gyntaf

  • Cyhoeddwyd
riolFfynhonnell y llun, Reuters

Sabrina Fortune yw'r athletwr Cymreig cyntaf i ennill medal yn y Gemau Paralympaidd yn Rio.

Fe sicrhaodd Fortune, 19 oed o Sir y Fflint, record bersonol yng nghystadleuaeth taflu pwysau'r F20, gydag ergyd o 12.94m, gan sicrhau'r fedal efydd.

Daeth Fortune yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth Athletau IPC y Byd yn Doha y llynedd.

Mae ganddi sawl record Gymraeg yn y grwpiau oedran heb fod yn anabl, a hi yw pencampwr Cymru yn y gr诺p oedran dan 20 oed.

Fe lwyddodd Ewa Durska o Wlad Pwyl i dorri record byd a sicrhau'r fedal aur yn y gystadleuaeth.

"Allwch chi ddim dychmygu rhywbeth mor anhygoel 芒 hyn." meddai Fortune "Fe ddes i yma yn gobeithio am fy mhellter gorau. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n cael medal hefyd," ychwanegodd Fortune.

"Roedd yn anrhydedd llwyr i redeg o gwmpas y trac gyda baner Prydain Fawr yn hedfan tu 么l i mi.

"Rwy'n gobeithio, efallai yn Tokyo, byddaf yn cael y fedal aur ac yn cael cyfle i wrando ar yr anthem."

Yn y cyfamser, fe redodd Rhys Jones ei amser gorau i orffen yn bedwerydd yn y rownd gymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth 100m T37 ddydd Sul.