大象传媒

Symud gwasanaeth fasgwlaidd: 'Bywydau mewn perygl'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd

Mae cleifion sydd 芒 salwch ar yr arennau wedi rhybuddio y gallai bywydau fod mewn perygl os yw bwrdd iechyd gogledd Cymru yn parhau gyda chynlluniau i ganoli'r gwasanaeth fasgwlaidd.

Yn 么l AC Arfon, Sian Gwenllian, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn bwriadu symud rhai gwasanaethau fasgwlaidd o Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Maelor Wrecsam i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Dywedodd wrth raglen Newyddion 9 y byddai hynny'n golygu gwasanaeth israddol i ogledd orllewin Cymru.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau cynllun i greu uned arbenigol yn y gogledd, ond heb gadarnhau ei leoliad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Sian Gwenllian bod hyn yn "esiampl arall o wasanaethau'n symud yn araf i'r dwyrain"

Dywedodd Ms Gwenllian: "Os yw'r gwasanaeth fasgwlaidd yn symud yna mae'r arbenigedd yn mynd hefyd, gan olygu bod gwasanaeth israddol i ogledd orllewin Cymru.

"Mae hyn yn esiampl arall o wasanaethau'n symud yn araf i'r dwyrain."

Mae meddyg ymgynghorol yn Uned Arennau Ysbyty Gwynedd yn dweud y gallai gwasanaethau eraill ym Mangor gael eu heffeithio gan benderfyniad i ganoli'r gwasanaeth fasgwlaidd.

Dywedodd Dr Mahdi Jibani bod yr uned ym Mangor yn "fyd enwog".

"Mae hwn yn wasanaeth integredig, a byddai agweddau eraill o'r hyn rydyn ni'n ei wneud yma yn cael eu heffeithio - radioleg, wroleg a gastroenteroleg i enwi rhai yn unig," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dr Mahdi Jibani bod yr uned ym Mangor yn "fyd enwog"

Dywedodd Ken Jones o Gymdeithas Cleifion Arennau Cymru: "Os yw'r gwasanaeth yn mynd, bywydau fydd y gost. Does dim ffordd arall amdani."

Mewn datganiad, cadarnhaodd y bwrdd iechyd gynlluniau i greu uned arbenigol fasgwlaidd yng ngogledd Cymru, ond ni fyddai'n cadarnhau ble fyddai hynny.

Ychwanegwyd y byddai'r mwyafrif o wasanaethau fasgwlaidd yn parhau i gael eu cynnal ar dri safle - Ysbytai Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor.

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Dr Evan Moore: "Mae unedau fel y rhain - sy'n ganolfan ar gyfer llawdriniaethau mawr fasgwlaidd rhydwel茂ol - yn cael eu creu ar hyd a lled y DU, ac mae tystiolaeth gref bod safleoedd o'r fath yn gwella canlyniadau clinigol a diogelwch cleifion, yn denu'r staff gorau ac yn helpu i ddatblygu'r isadeiledd gorau."