大象传媒

Kirsty Williams: Ysgolion i 'bwysleisio sgiliau digidol'

  • Cyhoeddwyd
Cyfrifiadur

Mae sgiliau digidol disgyblion yr un mor bwysig 芒 sgiliau mathemateg neu iaith, yn 么l yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams.

Fe ddaeth sylwadau Ms Williams wrth iddi gyflwyno rhan o "gwricwlwm newydd i Gymru".

Hawliodd bod "Cymru'n arwain y byd o ran integreiddio sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm".

Yn 么l Llywodraeth Cymru, y bwriad yw ehangu'r defnydd o sgiliau cyfrifiadur mewn nifer o bynciau gwahanol.

'Radical'

Dywedodd Ms Williams: "Mae'r ffordd newydd, radical hon o weithio yn golygu y caiff sgiliau a gwybodaeth ddigidol eu cynnwys ym mhopeth y bydd ein disgyblion yn ei wneud yn yr ysgol.

"Nid dim ond mewn gwersi cyfrifiaduron wythnosol y bydd disgyblion yn ymwneud 芒 phethau o'r fath o hyn allan; bydd y sgiliau hanfodol hyn yn cael eu defnyddio ar draws y cwricwlwm gan eu bod, y dyddiau hyn, cyn bwysiced i ddatblygiad disgyblion 芒 dysgu i ddarllen ac ysgrifennu.

"Mae hyn yn rhan bwysig iawn o'n hymdrechion i greu cwricwlwm sy'n briodol ar gyfer nawr a'r dyfodol, yn hytrach na'r ganrif ddiwethaf.

"Mae hyn yn fwy na dim ond defnyddio cyfrifiaduron - nod y newidiadau yr ydym yn eu cyflwyno yw sicrhau bod gan ddisgyblion y sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt i ymgymryd 芒 thasgau a heriau o'r byd go iawn.

"Bydd ein hathrawon yn defnyddio mwy a mwy o sgiliau digidol yn eu gwersi, ynghyd 芒'r elfennau trawsgwricwlaidd eraill, sef llythrennedd a rhifedd, gan eu bod oll bellach yn hanfodol yn y byd modern."