Adroddiad Diamond: Argymell grant costau byw i fyfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai'r llywodraeth gyflwyno grant i helpu gyda chostau byw myfyrwyr, yn 么l adolygiad o'r drefn ar gyfer rhoi cyllid i fyfyrwyr.
Byddai'r grant newydd yn cymryd lle'r grant presennol sy'n talu am gyfran o ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru.
Yn ei adroddiad, mae Syr Ian Diamond yn argymell cyflwyno grant sylfaenol o 拢1,000 y flwyddyn i bob myfyriwr, yngh欧d 芒 chyllid ychwanegol ar sail prawf modd.
Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, ei bod yn cefnogi egwyddorion yr ad-drefniad ac y byddai nawr yn edrych sut mae gweithredu'r argymhellion.
O dan y drefn sydd wedi ei argymell, fe fyddai myfyrwyr o'r cefndiroedd tlotaf yn gallu hawlio mwy na 拢9,000 y flwyddyn.
Tua 拢7,000 y flwyddyn fyddai'r swm cyfartalog y byddai myfyriwr yn ei dderbyn.
Mae corff Prifysgolion Cymru wedi croesawu'r adroddiad.
Yr argymhellion
Dileu'r grant ffioedd dysgu presennol o hyd at 拢5,100 y flwyddyn;
Cyflwyno grant cynhaliaeth sylfaenol o 拢1,000 y flwyddyn i bob myfyriwr;
Cyflwyno grant cynhaliaeth ar sail prawf modd - mwy na 拢9,000 y flwyddyn i fyfyrwyr o deuluoedd sy'n ennill llai na 拢20,000; dim i fyfyrwyr o deuluoedd sy'n ennill mwy na 拢80,000.
Fe ddywedodd yr Athro Diamond y byddai gan fyfyrwyr o Gymru, ar gyfartaledd, lai o ddyled pan yn gadael y brifysgol na'u cyfoedion yn Lloegr.
Byddai'r grant mwyaf ar gael i fyfyrwyr o gartrefi sy'n ennill llai na 拢20,000 y flwyddyn.
Dim ond y grant sylfaenol o 拢1,000 bydd myfyrwyr o deuluoedd sy'n ennill mwy na 拢80,000 yn gallu ei hawlio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai'r argymhellion yn dod i rym tan 2018 o leiaf.
Dadansoddiad Aled ap Dafydd
Mae cael polisi ffioedd dysgu credadwy a chynaliadwy yn un o gonglfeini unrhyw lywodraeth. Gofynnwch i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Gellir dadlau fod y blaid honno yn parhau i dalu'n ddrud am dorri addewid wnaeth y blaid yn 2012 i beidio codi ffioedd dysgu yn Lloegr.
Y newyddion da i Lywodraeth Cymru ydi fod 'na gonsensws gwleidyddol yngl欧n 芒'r ffordd ymlaen; symud y pwyslais oddi wrth talu ffioedd i system sydd yn rhoi grantiau ar gyfer costau byw.
Ac fe all yr ysgrifennydd addysg Kirsty Williams, Democrat Rhyddfrydol, adfer ychydig o hygrededd i'w phlaid yn y maes yma gan y bydd ganddi gefnogaeth y llywodraeth Lafur pe bai hi yn mabwysiadu argymhellion Diamond.
Wrth groesawu'r adroddiad, fe ddywedodd corff Prifysgolion Cymru: "Cred Prifysgolion Cymru y bydd cynnig grantiau cynhaliaeth trwy brawf modd i fyfyrwyr o Gymru yn rhoi'r cyfle i lawer mwy o bobl dalentog drawsnewid eu gobeithion bywyd trwy fynd i brifysgol.
"Mae digon o dystiolaeth yn dangos fod angen cefnogaeth ariannol ar fyfyrwyr wrth astudio ac rydym felly'n falch i weld yr argymhelliad y dylid darparu'r gefnogaeth honno."
Fe ychwanegodd y corff bod sicrhau "cyllid prifysgolion ar gyfer blaenoriaethau allweddol... yn hollbwysig" ar gyfer eu dyfodol.
Cafodd eu neges o groeso ei ategu gan y Brifysgol Agored, a ddywedodd bod yr argymhellion yn "cynnig system gyllido deg a chynaliadwy ar gyfer addysg uwch rhan-amser".
'Cam cadarnhaol'
Fe ddywedodd arweinydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr bod yr argymhellion yn cynnig "model cyllido blaengar a chanddo ehangu mynediad i addysg yn egwyddor graidd iddo".
"Rydym wedi bod yn pryderu ers tro bod llawer o fyfyrwyr yn ei chael hi'n anodd talu costau byw cyffredinol", meddai eu harweinydd yng Nghymru, Fflur Elin.
"I rai, nid yw'r brifysgol yn ddyhead gan fod talu costau byw heb weithio llawn amser yn ymddangos yn amhosib.
"Rydym yn si诺r bod gwneud mwy i roi cymorth i bobl i fynd i'r brifysgol drwy helpu gyda'u costau cychwynnol yn gam cadarnhaol."
Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams ei bod "yn cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i'r adroddiad" ac y byddai'n "mynd ati nawr i ystyried yn fanylach sut y gallwn weithredu'r argymhellion hyn".
Ychwanegodd: "Rydym am sicrhau bod y rheini sy'n dymuno symud ymlaen i brifysgol yn gallu gwneud hynny.
"Pryder ynghylch methu 芒 thalu costau byw bob dydd, yn hytrach na'r syniad o ad-dalu benthyciadau ar 么l cael swydd, sy'n codi ofn ar nifer o bobl.
"Mae'r system yn mynd i'r afael 芒'r broblem hon, ond bydd hefyd yn golygu gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod y system yn gynaliadwy yn y tymor hir."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud eu bod wedi cefnogi polisi o'r fath yn eu maniffesto cyn etholiad y Cynulliad.
"Rydym yn cefnogi'r argymhellion i symud i ffwrdd o system o gymorth ar gyfer ffioedd dysgu a thuag at system o grantiau cynhaliaeth i fyfyriwyr ar sail prawf modd," meddai eu llefarydd ar addysg, Darren Millar AC.
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi credu erioed y dylai cymorth gael ei dargedu ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf i sicrhau bod pawb yn gallu cael addysg brifysgol, beth bynnag fo'u cefndir."
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd eu bod yn croesawu'r argymhellion, gan ychwanegu eu bod "yn falch y bydd y Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams yn brwydro o fewn y llywodraeth i sicrhau'r newidiadau angenrheidiol hyn i fyfyrwyr".
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Llyr Gruffydd, bod y blaid yn rhoi "croeso gofalus" i'r adroddiad.
Ychwanegodd: "Nid yw model presennol y llywodraeth yn gynaliadwy, a dyna pam ei bod yn bwysig derbyn argymhellion yr Athro Diamond. Pecyn cyflawn yw hwn - ni fyddai'n briodol i'r llywodraeth ddewis a dethol eu hoff rai."
Y system bresennol
Mae'r system bresennol wedi bodoli ers 2012, pan ddechreuodd prifysgolion godi hyd at 拢9,000 y flwyddyn am eu cyrsiau.
Ers hynny, mae myfyrwyr Cymru wedi bod yn gyfrifol am dalu cyfran o'r gost - 拢3,900 ar hyn o bryd - sy'n gallu cael ei dalu trwy fenthyciad, i'w dalu 'n么l unwaith mae'r myfyriwr wedi graddio ac yn ennill cyflog o 拢21,000 y flwyddyn.
Mae'r gweddill - hyd at 拢5,100 y flwyddyn - yn cael ei dalu gan y trethdalwr a'r cyfan wedi costio mwy na 拢237m yn 2014-15.
O ran costau byw, mae 'na rai grantiau ar gael i fyfyrwyr o'r cefndiroedd tlotaf ac i'r rhai sydd yn derbyn budd-daliadau neu'n rieni sengl.
Mae pawb yn gallu benthyg rhywfaint o arian ar gyfer cynhaliaeth.