大象传媒

'Dim digon o werslyfrau ac adnoddau Cymraeg'

  • Cyhoeddwyd
ArholiadFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Aelod Cynulliad wedi galw ar oedi cyn cyflwyno pynciau TGAU a Lefel A hyd nes bod rhagor o werslyfrau Cymraeg ar gael.

Yn 么l Llyr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar addysg, mae dibynnu ar athrawon i gyfieithu adnoddau dysgu yn "annheg" ac yn "dibrisio gwerth y cyrsiau".

Mae rhaglen Newyddion 9 wedi clywed honiadau bod un pwnc, gafodd ei chyflwyno 15 mlynedd yn 么l, yn dal i fod heb ddeunydd dysgu yn y Gymraeg.

Ac mae un athro wedi dweud iddo orfod treulio ei wyliau haf yn cyfieithu gwerslyfr er mwyn gallu ei ddefnyddio yn y dosbarth.

Mewn ymateb dywedodd prif gorff arholi Cymru, CBAC bod cryn gynnydd wedi bod wrth gau'r bwlch rhwng cyhoeddi fersiynau Saesneg a fersiynau Cymraeg y llyfrau.

'Pwysau ychwanegol'

Dywedodd Llyr Gruffydd na ddylai cyrsiau newydd gael eu cyflwyno mewn ysgolion nes bod yr holl adnoddau dysgu perthnasol ar gael yn y ddwy iaith.

"Dw i'n deall yr angen i sicrhau bod gwerslyfrau Saesneg ar gael ac yna mae proses gomisiynu i'w cael nhw wedi'u cyfieithu," meddai.

"Ond byddai'n fater syml i ddweud y dylid oedi am flwyddyn tan fod y ddarpariaeth Gymraeg ar gael achos hebddo, mae'n annheg i athrawon sydd yn gorfod eu cyfieithu ac mae'n dibrisio'r cwrs yn llygad y disgyblion."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r sefyllfa bresennol yn annheg i athrawon, yn 么l Llyr Gruffydd

Dywedodd Chris Evans, pennaeth Seicoleg yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, ei fod wedi treulio ei wyliau haf llynedd yn cyfieithu gwerslyfr, ac er iddo gwyno am y sefyllfa does dim wedi newid.

"Fe wnes i godi'r mater gyda fy Aelod Cynulliad rhanbarthol [Aled Roberts] ac fe gododd o'r peth yn y Cynulliad," meddai'r athro.

"Mae'r un broblem wedi codi gydag ail flwyddyn y cwrs seicoleg. Cafodd fersiwn Saesneg y gwerslyfr ei chyhoeddi ym mis Mehefin ond fydd yr un Gymraeg ddim ar gael nes o leiaf haf nesaf.

"Mae cyfieithu'r deunydd wedi rhoi pwysau ychwanegol arna i dros y ddwy flynedd ddiwethaf a rhoi disgyblion iaith Gymraeg dan anfantais."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Chris Evans yn dweud iddo dreulio un haf yn cyfieithu gwerslyfr

'Dim gwerslyfr'

Yn 么l Arwel George o Gymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg mae ceisio sicrhau gwerslyfrau Cymraeg i gydfynd 芒 rhai Saesneg yn "hen, hen broblem", ac mae'n debygol bod "ugeiniau o athrawon" wedi bod yn yr un sefyllfa a Mr Evans o fod wedi gorfod cyfieithu testunau.

Ond mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno 21 cwrs TGAU newydd a 24 cwrs Lefel A newydd yn y blynyddoedd diwethaf, meddai, "wedi gwneud y broblem lot yn waeth".

Mae ymatebion i arolwg gan undeb athrawon hefyd wedi awgrymu bod sawl pwnc TGAU a Lefel A ble nad oes deunydd dysgu digonol yn y Gymraeg.

Fe glywodd undeb UCAC gan rai athrawon nad oes gwerslyfr iaith Gymraeg wedi cael ei chyhoeddi ers cyflwyno cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol bymtheg mlynedd yn 么l.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Arwel George yn gyn-bennaeth ar Ysgol Penweddig yn Aberystwyth

Mae eraill wedi dweud bod gwerslyfrau Mathemateg yn cael eu cyhoeddi pan oedd y cwrs bron 芒 chael ei chwblhau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod yr adnoddau cywir ar gael er mwyn cynorthwyo dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae'r Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg wedi derbyn llythyr ynghylch y mater hwn ac rydym yn edrych i mewn i'r peth."