大象传媒

'Gormod o ailddarlledu ar S4C' medd y prif weithredwr

  • Cyhoeddwyd
Ian JonesFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd prif weithredwr S4C yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad

Mae prif weithredwr S4C wedi dweud wrth un o bwyllgorau'r Cynulliad bod gormod o ailddarllediadau ar yr orsaf.

Dywedodd Ian Jones fod 57% o'r rhaglenni'n ailddarllediadau erbyn hyn, o'i gymharu 芒 tharged S4C, pan gafodd ei sefydlu, o 20%

Dywedodd nad oedd yn gwybod sut y byddai modd rheoli'r sefyllfa petai yna doriadau pellach i gyllideb y sianel.

Fis diwethaf, cyhoeddwyd y bydd yr arian y mae S4C yn ei dderbyn o ffi drwydded y 大象传媒 yn aros ar 拢74.5m tan 2022.

Hwnnw sydd i gyfri am fwyafrif cyllideb y sianel.

Mae S4C hefyd yn cael 拢7m o nawdd gan lywodraeth y DU, yn ogystal 芒 pheth arian masnachol.

'Llawer rhy uchel'

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad, dywedodd Ian Jones:

"Pan gafodd S4C ei sefydlu yn 1982, roedd gyda ni darged o 20% o ailddarlledu.

"Ry' ni nawr ar 57%, sy'n llawer yn rhy uchel yn fy marn i.

"Dw i ddim yn gwybod sut y byddwn ni'n rheoli'r sefyllfa yn y dyfodol os bydd rhagor o doriadau o'r Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, neu yn nhermau toriadau termau real.

"Ond mae'n ffactor y bydd yn rhaid i ni edrych arni unwaith eto."