Cleifion gwaed heintiedig i gael mwy o gymorth ariannol
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cleifion sydd wedi eu heffeithio gan waed heintiedig yn derbyn cymorth ariannol ychwanegol.
Yn ystod y flwyddyn ariannol yma, fe fydd y taliadau yn cynyddu i fod yr un peth a'r taliadau yn Lloegr.
Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai 拢125m o arian ychwanegol ar gael i helpu'r rhai gafodd waed heintiedig drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ystod y 1970au a'r 1980au.
Fe gafodd miloedd o bobl eu heintio ym Mhrydain gyda hepatitis C a HIV ar 么l cael gwaed oedd wedi ei heintio gan roddwyr gwaed.
Mae'r ysgrifennydd iechyd, Vaughan Gething AC, wedi dweud mai 'mesur dros dro' yw hyn.
Fe fydd cyfnod o ymgynghori yn digwydd er mwyn cael barn dioddefwyr a grwpiau sydd yn eu cynrychioli, er mwyn penderfynu faint o gymorth ariannol fydd cleifion yng Nghymru yn ei gael yn yr hir dymor.