大象传媒

BT am haneru nifer eu blychau ff么n yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Bocs ffon yng Ngheredigion

Mae BT yn ystyried cael gwared 芒 dros 1,500 o flychau ff么n yng Nghymru, cynllun a allai haneru'r nifer.

Dywedodd y cwmni eu bod yn adolygu defnydd y blychau ff么n sydd ddim eu hangen bellach, ac maen nhw wedi cysylltu ag awdurdodau lleol i roi gwybod iddynt.

Ymysg y rhai allai gael eu cau mae 177 o flychau yn Sir G芒r, 60 yn Abertawe a 53 yng Nghastell-nedd.

Ond mae pryder y gallai'r cynlluniau gael effaith andwyol ar gymunedau gwledig, ble nad oes signal ff么n symudol dibynadwy.

Mae nifer o flychau yng Nghymru eisoes wedi cael eu haddasu at ddibenion gwahanol, gan gynnwys bod yn lyfrgelloedd neu'n rywle i gadw diffibrilwyr.

Gofyn i gynghorau

Mae BT eisoes wedi gosod rhybuddion yn y 1,579 o flychau ff么n sydd dan fygythiad. Ar draws Cymru mae gan y cwmni cyfathrebu 3,394 blwch ff么n.

Dyw nifer o'r blychau ddim wedi cael eu defnyddio o gwbl yn y flwyddyn ddiwethaf, ond dywedodd Parc Cenedlaethol Sir Benfro bod un blwch dan fygythiad yn Ninbych-y-Pysgod wedi cael ei defnyddio 127 gwaith mewn 12 mis.

Ychwanegodd cyngor tref Dinbych-y-Pysgod y byddan nhw'n gwrthwynebu cael gwared 芒'r blwch hwnnw a blwch arall yn y dref gafodd ei defnyddio 26 o weithiau, gan eu bod yn agos at ysgolion ac am nad oes gan nifer o drigolion h欧n yr ardal ffonau symudol.

Dywedodd BT y byddan nhw'n dilyn rheolau Ofcom yn ofalus wrth gael gwared 芒 blychau ac y bydden nhw'n gwneud hynny 芒 chaniat芒d yr awdurdodau lleol "ble fo'n briodol".

"Mae BT wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth blychau ff么n cyhoeddus, ond gyda'r defnydd yn gostwng o 90% dros y ddegawd ddiwethaf, rydyn ni wedi parhau i adolygu a chael gwared 芒 blychau ff么n nad oes eu hangen bellach," meddai llefarydd ar ran y cwmni.

"Ym mhob achos ble nad oes blwch ff么n arall o fewn 400 metr, fe fyddwn ni'n gofyn am ganiat芒d yr awdurdod lleol cyn tynnu'r blwch ff么n oddi yno. Os ydyn nhw'n gwrthwynebu, wnawn ni ddim tynnu'r blwch oddi yno."