AS yn dweud bod angen adolygiad o beiriannau gamblo
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol sy'n arwain ymchwiliad i beiriannau hap chwarae fixed odds wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru eu bod yn "beryglus".
Mae Carolyn Harris, AS Dwyrain Abertawe, yn galw am adolygiad o'r peiriannau gamblo electronig, sydd i'w gweld mewn siopau betio ledled y wlad, gan lywodraeth y DU.
Mae'n dweud eu bod nhw yn dod 芒 swm "syfrdanol" o arian i'r bwcis, ond fod y peiriannau yn gallu arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod pobl sy'n gaeth yn gallu colli miloedd o bunnau mewn un sesiwn.
"Mae'r peiriannau yma yn gallu cymryd 拢100 punt bob 20 eiliad: mae hynny'n 拢300 mewn munud," meddai.
"A tydi'r peiriant ddim yn rhoi cyfle i'r unigolyn i stopio a meddwl be' maen nhw'n wneud. Mae e mor sydyn, jyst pwyso botwm."
'Pla'r gymuned'
Mae peiriannau hap chwarae fixed odds wedi bod ar y stryd fawr ers dechrau'r mileniwm ac maen nhw'n dod 芒 拢7bn i'r diwydiant yn flynyddol, gan gynnwys 拢1.7bn o elw.
Mae rheolau'r llywodraeth yn cyfyngu'r nifer o beiriannau y gall cwmn茂au eu gosod mewn siop i bedwar.
Ond mae beirniaid yn dweud fod hynny wedi arwain at glwstwr o siopau mewn trefi wrth i'r cwmn茂au geisio cynyddu'r nifer o'r peiriannau ar y stryd fawr.
Mae Ms Harris yn dweud fod y bwcis wedi agor mwy o siopau mewn ardaloedd difreintiedig, a bod y peiriannau wedi newid delwedd y diwydiant i'r cyhoedd.
"Pan oedd y bwcis yn cynnig rasio ceffylau a ch诺n, roedden nhw'n rhan annatod o'r gymuned. Nawr nhw yw pla'r gymuned," meddai.
"Mae angen ailwampio ac adolygu'r peiriannau a dod o hyd i ateb fydd yn helpu i ddelio 芒'r problemau sy'n dod wedyn, fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, prosesu arian anghyfreithlon a thrais, hyd yn oed os nad yw'r atebion yn mynd i blesio'r bwcis."
Mae 大象传媒 Cymru wedi siarad gydag unigolion sy'n gaeth i gamblo sy'n disgrifio'r peiriannau fel "crac coc锚n" y diwydiant.
Mae awgrymiadau cryf fod Llywodraeth San Steffan ar fin cyhoeddi adolygiad o'r peiriannau.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd o'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: "Rydym yn parhau i fonitro effeithlonrwydd rheoliadau gamblo sy'n bodoli yn barod, ac fe fyddwn yn cymryd camau pellach os oes angen."
Dywedodd Malcolm George o Gymdeithas Bwcis Prydain bod y cwmn茂au yn derbyn bod adolygiad gan y llywodraeth yn debygol.
"Am sawl rheswm, bydden ni'n croesawu dadl wedi'i seilio ar dystiolaeth," meddai.
"Mae'n hawdd iawn i'r lobi gwrth gamblo gyflwyno honiadau cryf, ond sy'n anghywir am y diwydiant.
"Mae'r peiriannau yma mewn siopau betio ers 15 mlynedd... Mae adolygiadau wedi digwydd o'r blaen a phan mae'r dystiolaeth yn cael ei gyflwyno i'r llywodraeth maen nhw'n dod i'r un canlyniad: mae'n gwbl gywir eu bod nhw yna."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2016