Papur newydd Y Cyfnod ar werth unwaith eto
- Cyhoeddwyd
Mae papurau newydd yn ardal Y Bala a Corwen wedi'u rhoi ar werth unwaith eto, dair blynedd yn unig ar 么l cael eu prynu.
Fe gymerodd Mari Williams yr awenau yn 2013, a hi sydd bellach yn gyfrifol am gyhoeddiad wythnosol dwyieithog Y Cyfnod yn ogystal 芒 phapur y Corwen Times.
Ond mae hi bellach yn chwilio am brynwr newydd i'r busnes, ar 么l derbyn swydd newydd gyda'r Urdd.
Dywedodd ei bod hi'n "gyfle arbennig i rywun redeg dau bapur hollol unigryw", a'i bod hi'n gobeithio dod o hyd i brynwr newydd cyn diwedd y flwyddyn.
Fe brynwyd y ddau bapur gan Ms Williams dair blynedd yn 么l yn dilyn cau Gwasg Y Sir yn Y Bala, oedd wedi bod yn gyfrifol am y cyhoeddiadau gynt.
Mae'n gwerthu tua 1,000 o gop茂au'r wythnos - ac mae hynny wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, meddai - yn ardaloedd Y Bala, Corwen, Cerrigydrudion, Trawsfynydd, Dolgellau a Rhuthun.
"Mae o yn fusnes bach cynaliadwy i rywun, efallai fel rhan o fusnes arall tebyg neu hyd yn oed fel menter gymunedol neu fenter ar y cyd," meddai.
"Dwi'n agored i drafod posibiliadau ac yn edrych ymlaen yn fawr i glywed pa syniadau sydd gan bobol am y cam nesaf ar gyfer y papurau."
Ychwanegodd wrth 大象传媒 Cymru Fyw ei bod wedi cael "ambell i sgwrs" 芒 phrynwyr posib, ac y byddai pwy bynnag oedd yn cymryd yr awenau yn etifeddu busnes sydd 芒 chyflenwyr, hysbysebwyr a chyfranwyr rheolaidd, yn wahanol i'r sefyllfa n么l yn 2013.
"Mae'r swydd newydd yn un heriol, llawn amser," meddai.
"Yn ddelfrydol, mi fydda i yn cymryd cam llwyr oddi wrth y papur. Ond lles y papur ydi'r flaenoriaeth ac mi allwn i drafod cadw golwg, rhoi hyfforddiant neu rywfaint o gymorth os oes angen."