大象传媒

Ateb y Galw: Lowri Morgan

  • Cyhoeddwyd
lowri morgan

Lowri Morgan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Tanni Grey-Thompson yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Mwynhau'r wefr o seiclo rownd a rownd y t欧 gyda fy mrawd.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Tom Cruise yn Top Gun.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Rhedeg mas i'r cae rygbi tra'n chwarae i Gymru, a thra'n edrych i fyny at yr eisteddle ac at fy nheulu, fe wnes i redeg yn syth i mewn i'r polyn fflag. Roedd hwn cyn dyddiau cyfryngau cymdeithasol, diolch byth!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lowri yn gwneud be mae hi'n ei wneud ora

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Gwylio a darllen am hanes trychineb Aberfan.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, ond dwi am dwi ddim am eu datgelu!

P'run yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

G诺yr - yr ardal lle cefais fy magu a fy maes chwarae antur.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy mharti priodas.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwell gan Lowri fod mewn sefyllfaoedd fel hyn 'na chael ei holi'n dwll gan Cymru Fyw!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Penderfynol, gonest, cyfeillgar.

Beth yw dy hoff lyfr?

To Kill A Mockingbird gan Harper Lee.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Esgidiau rhedeg.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welsast di?

Heb wylio ffilm ers sbel hir ond yn mwynhau gwylio'r gyfres Westworld ar hyn o bryd.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Anna Paquin (ma hi, fel fi wedi rhedeg sawl milltir gyda'r pram).

Dy hoff albwm?

A Rush Of Blood To The Head - Coldplay. Dwi'n edrych mlaen i'w gweld yn perfformio'n Nghaerdydd flwyddyn nesa'.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?

Pwdin - unrhyw bwdin gwych Mam.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

David Rudisha

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Ffion Dafis