Plaid 'wastad yn ystyried' ffurfio clymblaid 芒 Llafur
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru "wastad yn ystyried" a ddylid ffurfio clymblaid gyda Llafur yn y Cynulliad, yn 么l arweinydd y blaid, Leanne Wood.
Mae'r blaid yn cydweithio gyda llywodraeth leiafrifol Llafur ond yn parhau i fod yn wrthblaid.
Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei fod yn gadael Plaid Cymru ac y byddai'n eistedd fel aelod Cynulliad annibynnol, gan ddweud nad oeddynt yn ddifrifol am weithio gyda Llafur.
Dywedodd Ms Wood wrth 大象传媒 Cymru fod "trafodaethau parhaus" yn y blaid ynghylch a fyddai'n well iddynt rannu grym yn ffurfiol.
Dywedodd bod aelodau'r blaid wedi eu "wirioneddol rwygo" dros y "cyfyng-gyngor".
Ymrwymiadau maniffesto
Siaradodd Ms Wood cyn cynhadledd y blaid yn Llangollen dros y penwythnos.
"Rydym yn mynd ati i ystyried hyn drwy'r amser," meddai.
"Mae'r cwestiwn o sut y gall Plaid Cymru chwarae eu rhan yn y ffordd orau, sy'n diogelu buddion pobl Cymru.
"Rydym wedi cymryd y farn, y gallwn ddefnyddio'r sefyllfa hon gyda llywodraeth leiafrifol i gael cymaint o'n hymrwymiadau maniffesto drwy'r cynulliad, ac i ddylanwadu ar agweddau eraill fel deddfwriaeth, fel y ddadl ar Brexit.
"Ond rydym hefyd wedi bod o'r farn bod y llywodraeth yn haeddu gwrthwynebiad yn ogystal a chraffu, ac ni allwn fforddio adael i'r pleidiau eraill gael yr hawl i wneud hynny."
Dywedodd Ms Wood: "Gallai hynny newid wrth i amser fynd heibio, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd mae'r Compact wedi ein gwasanaethu'n dda ac mae'r ffaith ein bod wedi llwyddo i sicrhau gwerth 拢119m o'n hymrwymiadau yn y gyllideb yn dangos ei fod yn gweithio yn eithaf da i ni ar hyn o bryd."
Mae'r Compact yn gytundeb y mae Plaid wedi ei wneud gyda Llafur i ganiat谩u i Carwyn Jones ddychwelyd fel prif weinidog, wythnos ar 么l iddo a Ms Wood anghytuno'n llwyr yngl欧n a phleidlais i gymryd y swydd.
Ychwanegodd: "Rwy'n credu bod pobl (yn y Blaid) yn cael eu rhwygo'n wirioneddol rhwng y ddwy farn, a ydyn nhw (Llafur) mor ddrwg ar lefel lywodraethol, nes y dylem fod yno yn eu helpu, neu eu bod yn gwneud gwaith mor ddrwg nes bod angen eu dal i gyfrif gyda gwrthwynebiad cryf. Mae hyn yn benbleth.
'Penbleth'
"Rwy'n credu mai dyna'r benbleth ar gyfer y rhan fwyaf o aelodau."
Mae gan y ddau balaid "berthynas waith dda", meddai, ond roedd gwahaniaethau mawr rhyngddynt dros Brexit.
Ond mae un o ACau Plaid Cymru, Neil McEvoy, wedi dweud ei fod wedi "synnu" ag adroddiadau y gallai'r blaid ffurfio clymblaid 芒 Llafur, gan ddweud bod hynny'n groes i safbwynt swyddogol eu gr诺p yn y Cynulliad.
Bydd y Blaid yn defnyddio ei chynhadledd i ddangos ei fod wedi sicrhau consesiynau yn y gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd yr wythnos hon.
Mae'r cytundeb 拢119m 芒 Phlaid yn cynnwys mwy o arian ar gyfer addysg uwch, a hyfforddiant meddygol.
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud fod y fargen dros y gyllideb yn brawf bod Plaid yn cadw Llafur mewn grym.