Leanne Wood yn galw am fasnach rydd gydag Ewrop
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud y dylai'r DU aros yn rhan o'r farchnad sengl fel nad ydi'r economi'n dioddef yn dilyn Brexit.
Dywedodd Leanne Wood wrth gynhadledd y blaid bod 200,000 o swyddi'n ddibynnol ar fasnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Fe alwodd hefyd ar i Gymru gael sedd wrth fwrdd y trafodaethau ar Brexit, ac awgrymodd bod 'na "gyfle" i Gymru gael pwerau newydd neu annibyniaeth.
Dywedodd bod y ddadl am fewnfudo, ffoaduriaid a rhyddid i symud yn "wenwynig" a bod y Prif Weinidog Theresa May wedi ymuno 芒'r ddadl honno.
"Mae ein cenedl Cymreig ni yn agored i ffoaduriaid a phobl sy'n ffoi rhag brwydro", meddai.
Yn y brif araith i aelodau Plaid Cymru yn Llangollen, fe wnaeth Ms Wood ddatgelu cynllun tri phwynt i amddiffyn buddiannau Cymru pan fo'r DU yn gadael yr UE.
Fe bwysleisiodd pa mor bwysig, yn ei barn hi, fyddai aros yn y farchnad sengl, gan fod tua 40% o allforion Cymru'n mynd i'r UE - a 90% o allforion y sector bwyd a diod.
Ddywedodd mai'r opsiwn "Brexit meddal" fyddai'n "creu lleiaf o niwed i'n busnesau a diwydiannau."
Fe ddywedodd hefyd i bod am i bedair cenedl y DU fod yn rhan o'r trafodaethau am Brexit, gan ychwanegu bod rhai o gymunedau Cymru wedi pleidlesio i adael Ewrop "am eu bod wedi cael eu gadael ar 么l".
Ychwanegodd bod "cyfle ym mhob argyfwng", ac y gallai hyn arwain at newidiadau cyfansoddiadol i Gymru - mwy o ddatganoli, Prydain ffederal, "yr holl ffordd at annibyniaeth."
Dim clymblaid
Fe ddywedodd Leanne Wood hefyd nad oedd hi am weld clymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur yn y Cynulliad.
Dywedodd y bydd y cytundeb presennol rhwng y pleidiau ym Mae Caerdydd "yn helpu Cymru" ond bod y wlad "yn dal angen llywodraeth amgen."
Yn gynharach ddydd Sadwrn roedd un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi galw am bleidlais ar y cytundeb - neu'r compact - gafodd ei arwyddo ym mis Mai.
Dywedodd Neil McEvoy ei fod AC Plaid eisiau 'dim byd i'w wneud 芒 Llafur' a bod Plaid Cymru'n gwneud yn well os ydyn nhw'n "wrthblaid rymus".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2016