Magu hyder wrth fodelu
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Gaerfyrddin sy'n dioddef o gor-bryder wedi trawsnewid ei chorff a throi at fodelu fel modd o adennill ei hyder.
Dywedodd Carmen Rouse, 24 oed, ei bod hi wedi ei bwlio yn yr ysgol am ei bod dros ei phwysau ac am ei gwallt sinsir, a bod hynny wedi arwain at anhwylder bwyta difrifol.
Mae bellach yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am y problemau a oedd yn rhwystr iddi adael ei chartref am gyfnodau pan oedd yn y brifysgol. Bu'n dweud ei stori wrth Cymru Fyw:
'Diodde'n dawel'
"Dyw gor-bryder byth bron yn cael unrhyw sylw," meddai. "Wnes i benderfynu cyfaddef i bobl fy mod i'n brwydro ag e oherwydd do'n i ddim yn gallu ymdopi ei guddio mwyach.
"Unwaith roedd pobl yn gwybod, ges i gymaint o negeseuon o gefnogaeth ar gyfryngau cymdeithasol, yn dweud eu bod nhw'n dioddef hefyd. Ges i sioc i weld cynifer o bobol oedd yn yr un cwch a fi.
"Ro'n i gyd yn meddwl ein bod ni'n unigryw - mai dim ond ni oedd yn dioddef, ond mae'n glir erbyn hyn, bod llawer yn diodde'n dawel."
Dywedodd bod y gor-bryder wedi effeithio'n wael arni yn y brifysgol, ac yna eto ar 么l genedigaeth ei phlentyn cyntaf, Summer, sydd bellach yn bump oed.
"Pryd bynnag o'n i'n mynd i ddosbarth, roedd y stafell yn tywyllu ac yn troi'n aneglur," meddai.
"Byddai fy mhen, fy nwylo a fy nhraed yn oeri ac yn pigo, a fy mrest yn tynhau. Byddai fy nghalon yn curo'n uchel ac yn gyflym. I le alla i fynd i ddianc? Ydw i'n mynd i farw?"
Dywedodd nad oedd nifer o'u cyfeillion yn deall beth oedd yn bod arni. Dywedodd ei bod yn teimlo'n euog, a bod hynny wedyn yn gwaethygu ei symptomau.
"Roedd yna adegau pan oedd pobl yn rowlio eu llygaid am nad o'n i wedi gadael y t欧 ers dyddie, neu achos fy mod i'n gwrthod mynd mewn i adeiladau prysur.
"Ond roedd hynny'n fy ngwneud i'n waeth, ac yn arwain at fwy o ansicrwydd, a fy ngwneud i i eisiau ynysu fy hun rhag pawb a phopeth."
Meithrin hyder - a chyhyrau
Ers blwyddyn, mae Carmen Rouse wedi bod yn gwneud gwaith modelu ac yn teimlo ei fod yn fodd o frwydro ei gor-bryder.
"Dw i'n teimlo'n dda am fy hun, ac wrth wneud shoots dw i'n mynd mewn i fyd bach fy hun, a chanolbwyntio ar fy hun," meddai. "Mae pryderon eraill yn diflannu.
"Oherwydd y bwlio pan o'n i'n ifanc, roeddwn i'n dadansoddi fy nghorff yn gyson, yn rhoi fy hunan lawr a gwneud i fy hun deimlo'n ddi-werth.
"Ond dw i wedi magu cymaint o hunanhyder, yn enwedig wrth fodelu'n gyhoeddus. Dw i'n teimlo'n gr锚t am fy hun, yn enwedig o ystyried pa mor galed dw i wedi gweithio i gael y corff sydd gen i heddiw."
Dywedodd ei bod hi bellach yn derbyn negeseuon lu gan ferched eraill sydd eisiau adennill hyder yn yr un modd.
Troi at wefannau cymdeithasol
Er nad yw hi'n siarad am or-bryder gyda'i theulu a'i ffrindiau, mae rhwydwaith o gefnogaeth ganddi ar-lein, meddai.
"Dw i'n teimlo y bydden i'n gwneud i fy nheulu boeni pe bawn i'n cwyno am beth 'dw i'n mynd trwyddo," meddai.
"Mae'n well gen i siarad gyda phobl dw i wedi dod i'w hadnabod ar wefannau cymdeithasol, sy'n dioddef o'r un peth a fi.
"Fel yna, dw i'n gallu bod yn gyfforddus wrth drafod, wrth ddweud beth sydd wir ar fy meddwl, heb fod yn faich i'r rheiny sy'n agos ata i."
Mae'n cyfaddef ei bod hi'n ymdopi'n well dyddiau yma, gyda'r gor-bryder yn digwydd o dro i dro, yn hytrach na phob un dydd.
A phan mae'n cael pyliau'r dyddiau yma, meddai, mae hi'n trio gwneud pethau bychain i droi ei meddwl oddi ar yr hyn sy'n digwydd.
Y peth gwaethaf gall rywun ei wneud ydy cuddio rhag y byd, meddai. Rhaid dyfalbarhau, hyd yn oed os nad ydy'r awydd yno.
"Dw i byth wedi ildio," meddai. "Dw i ofn gadael y t欧 weithiau, ond mae'n rhaid i mi. Dw i methu gadael iddo darfu ar fy mywyd bob dydd."
Stori: Llinos Dafydd