大象传媒

Yr RSPCA yn disgwyl 'miloedd' o alwadau am esgeulustod

  • Cyhoeddwyd
Ci RSPCA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

C诺n yw'r anifeiliaid sy'n dioddef fwyaf, yn 么l adroddiad yr RSPCA

Mae'r RSPCA yn disgwyl miloedd o alwadau am esgeulustod y gaeaf hwn ar 么l derbyn bron i 3,000 o adroddiadau yng Nghymru y llynedd.

Er i'r elusen ailgartrefu 1,750 o anifeiliaid yng Nghymru, mae'r ffigyrau'n dangos bod esgeulustod yn broblem fawr yn ystod y misoedd y gaeaf, rhwng mis Hydref a mis Ionawr.

Mae'r elusen wedi lansio eu hymgyrch Cariad at Anifeiliaid, Casineb at Greulondeb, sy'n bwriadu dod 芒'r broblem at sylw'r cyhoedd, a'u hatgoffa am yr holl esgeulustod sy'n digwydd yn y cyfnod cyn y Nadolig.

O'r rhai sy'n cael eu gadael heb loches, bwyd na d诺r, i eraill sydd ag anafiadau heb eu trin neu salwch, mae ystadegau'n dangos bod 2,987 o alwadau wedi cael eu derbyn gan y RSPCA yng Nghymru'r gaeaf diwethaf.

Roedd y galwadau hynny'n ymwneud 芒 6,883 o anifeiliaid.

'Pob diwrnod yn anodd'

C诺n oedd yr anifeiliaid a gafodd eu hesgeuluso fwyaf, gyda 1,890 ohonynt yn dioddef.

Dywedodd Uwch-arolygydd RSPCA Cymru, Martyn Hubbard: "Mae'n drist bod pob diwrnod yn gallu bod yn anodd i'n harolygwyr a'n swyddogion lles anifeiliaid, ond mae'r gaeaf yn dod 芒'i sialensiau a phroblemau ei hun.

"Rydym yn disgwyl derbyn tua 19,000 o anifeiliaid ar draws Cymru a Lloegr y gaeaf yma."

Mae problemau fel anifeiliaid heb gysgod addas, a rhai sydd heb gael eu bwydo iawn yn gwynion cyffredin i'r RSPCA.

Oherwydd yr holl broblemau mae'r elusen yn wynebu o ran taclo creulondeb anifeiliaid, dywedodd RSPCA Cymru eu bod am atgoffa'r cyhoedd ei bod hi'n bwysig i bobl barhau i garu nid yn unig eu hanifeiliaid, ond bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm hefyd.