大象传媒

Fferm wynt Pen y Cymoedd yn dechrau cynhyrchu trydan

  • Cyhoeddwyd
Pen y CymoeddFfynhonnell y llun, Vattenfall

Mae'r fferm wynt fwyaf ar dir mawr Cymru wedi cynhyrchu trydan am y tro cyntaf.

Mae datblygiad Pen y Cymoedd sy'n werth 拢365m wrthi'n cael ei adeiladu rhwng Castell-nedd ac Aberd芒r gan y datblygwyr Vattenfall o Sweden.

Y gobaith yw y bydd cynllun 250 megawat, 76 tyrbin yn cael ei gwblhau yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths bod y datblygiad yn "newyddion gr锚t".

"Mae cefnogi'r datblygiad o fwy o gynlluniau ynni adnewyddadwy yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae hyn yn ein helpu tuag at ein nod o leihau ein hallyriadau t欧 gwydr o leiaf 80% erbyn 2050," meddai.