大象传媒

Joanna Penberthy yw esgob newydd Tyddewi

  • Cyhoeddwyd
Esgob

Joanna Penberthy yw esgob etholedig newydd Tyddewi - yr esgob benywaidd cyntaf i gael ei hethol yng Nghymru.

Mae aelodau'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn trafod ethol esgob newydd ers dydd Mawrth.

Daw'r penodiad yn dilyn ymddeoliad Wyn Evans fuodd wrth y llyw am wyth mlynedd.

Mae'r newyddion yn golygu mai Joanna Penberthy yw 129fed Esgob Tyddewi, esgobaeth sy'n cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Mae Joanna Penberthy yn 56 oed ac fe gafodd radd ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Yn y gorffennol mae wedi bod yn ficer yn Sir G芒r ac yn Ganon Tyddewi rhwng 2007 a 2010.

Disgrifiad,

Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru yn gwneud y cyhoeddiad

Mae'r siaradwraig Gymraeg hefyd wedi bod yn rheithor yn esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.

Roedd gan y 47 o aelodau o'r coleg etholiadol hyd at dridiau i wneud y penderfyniad.

Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru wnaeth y cyhoeddiad a hynny trwy ddatgloi ac agor drws gorllewinol y Gadeirlan yn Nhyddewi.