大象传媒

Dylan, Dahl a Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd

Gallwch synhwyro fod y cyfnod bach hwn yn un reit brysur yn y byd gwleidyddol. Serch hynny rwyf wedi llwyddo i gymryd ambell i ddiwrnod i ffwrdd o'r talcen glo i recordio rhaglen i Radio Cymru i nodi trichanmlwyddiant geni William Williams Pantycelyn ym mis Chwefror, flwyddyn nesaf.

Efallai bod hi'n ymddangos yn rhyfedd braidd taw newyddiadurwr gwleidyddol syn cyflwyno'r rhaglen yn hytrach na llenor neu ddiwinydd ond mae'r esboniad yn ddigon syml. Rwy'n digwydd bod yn un o gyff Pantycelyn ac rwyf wedi teimlo ers meitin nad oeddwn i'n gwybod digon am un o fy nghynteidiau. Roedd y trichanmlwyddiant yn gyfle da i ddysgu mwy.

Fe fyddai'n amhosib llunio rhaglen ynghylch Pantycelyn nad oedd yn cynnwys Derec Llwyd Morgan ac wrth i mi ei holi cododd Derec bwynt diddorol iawn.

Chwarter canrif yn 么l trefnodd Cyngor Sir Dyfed lwyth o ddigwyddiadau i nodi daucanmlwyddiant marwolaeth Williams. Y tro hwn, a barnu o'u gwefannau, mae'n ymddangos nad yw Cyngor Sir G芒r na Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud dim.

Cymharwch hynny a'r sbloets ddiweddar i goffau canmlwyddiant geni Roald Dahl a'r holl ddathliadau hynny adeg canmlwyddiant geni Dylan Thomas.

Rwy'n deall yn iawn mai ymgyrchoedd i farchnata Cymru oedd digwyddiadau Dahl a Dylan mewn gwirionedd. Serch hynny, gwariwyd symiau sylweddol o arian cyhoeddus ar ddathlu bywydau dau lenor. Mae cynsail wedi ei osod ac onid yw Pantycelyn yn haeddu rhyw fath o goff芒d?

Wedi'r cyfan mae modd dadlau bod ei ddylanwad ar ddiwylliant Cymru llawer yn fwy nac awduron yr CMM a Dan y Wenallt ac mae ei eiriau o hyd yn cael eu canu o gwmpas y byd.

Ar y gorau gellir dadlau bod y llywodraeth a'r cyngor wedi bod yn esgeulus yn hyn o beth. Efallai'n wir eu bod yn dangos agwedd sarhaus tuag at un o brif lenorion Cymru oedd yn dewis ysgrifennu'n bennaf yn y Gymraeg.

Dyna o leiaf yw barn Derec ac rwy'n amau y bydd llawer yn cytuno ac ef.