Leanne Wood wedi derbyn negeseuon 'ffiaidd' ar Twitter
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi dweud bod rhai o'r sylwadau y mae hi wedi ei dderbyn ar wefan Twitter yn "ffiaidd".
Mae dau berson wedi bod yn y llys am yrru negeseuon at Ms Wood - roedd un wedi s么n am ei threisio a'r llall am ei saethu.
Dywedodd ei bod yn ceisio osgoi rhwystro pobl rhag cysylltu gyda hi, ond bod rhai o'r negeseuon wedi croesi'r llinell.
"Rwy'n berson eithaf croendew... ond dydw i ddim yn meddwl y dylen ni dderbyn bygythiadau o dreisio neu saethu," meddai.
"Roedden nhw'n gas, roedden nhw'n ffiaidd mewn gwirionedd.
"Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig codi llais oherwydd ni ddylai neb orfod delio 芒'r math yna o gamdriniaeth yn unrhyw le."
'Llwyfan gr锚t'
Fe wnaeth Ms Wood gydnabod nad oedd negeseuon cas yn cael eu gyrru i wleidyddion yn unig, a galwodd i roi diwedd arno i bawb.
Er y negeseuon cas, dywedodd Ms Wood bod Twitter yn "lwyfan gr锚t" a bod nifer dilynwyr y blaid wedi cynyddu'n fawr yn dilyn ei hymddangosiad yn y dadleuon cyn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd.
"Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd bwysig i gyrraedd pobl, yn enwedig pobl ifanc," meddai.
"Rwy'n meddwl y gall hybu dadlau cadarnhaol, agored, democrataidd - does neb yn rheoli'r cynnwys.
"Felly mae'r rhyddid yn wych, ond mae ochr arall iddo hefyd."