大象传媒

Cynllun ar gyfer uned newydd 拢100m ym mhurfa Valero

  • Cyhoeddwyd
ValeroFfynhonnell y llun, Valero
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd safle'r purfa ei gwerthu i gwmni Valero gan Chevron yn 2011

Mae cwmni ynni Valero wedi cyhoeddi ei bwriad i adeiladu Uned Cynhyrchu Gwres a Ph诺er gwerth 拢100m yn eu purfa olew yn Sir Benfro.

Byddai'r uned, fyddai'n cynhyrchu 45 megawat o ynni, yn pweru'r burfa ei hun ym Mhenfro.

Pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai'r uned yn cynhyrchu trydan a st锚m chwilboeth o gynhyrchydd wedi'i bweru gan nwy naturiol.

Dywedodd y cwmni mai nod y prosiect yw sicrhau bod y burfa yn parhau'n llwyddiant mewn marchnad gystadleuol.

'Diogelu swyddi'

Dywedodd dirprwy-lywydd a rheolwr cyffredinol Valero, Ed Tomp: "Byddai hyn yn fuddsoddiad sylweddol gan Valero ym Mhenfro, sy'n dangos hyder yn yr hyn mae'r gweithlu wedi ei gyflawni ers i'r safle ddod i feddiant y cwmni ym mis Awst 2011.

"Mae'r prosiect wrth wraidd ein cynlluniau i gynnal hyfywedd y burfa ar gyfer y tymor hir a helpu diogelu swyddi yn y sector buro yn Sir Benfro a de-orllewin Cymru."

Dywedodd y cwmni y byddai penderfyniad terfynol ar y cais yn cael ei wneud y flwyddyn nesaf.