大象传媒

Penodi Colin Paterson yn olygydd newydd 大象传媒 Radio Wales

  • Cyhoeddwyd
Colin Paterson

Mae 大象传媒 Radio Wales wedi penodi Colin Paterson fel eu golygydd newydd.

Bydd Mr Paterson, sydd ar hyn o bryd yn olygydd rhaglenni cyffredinol gyda 大象传媒 Radio Scotland, yn dechrau yn ei swydd newydd y flwyddyn nesaf.

Fe fydd yn olynu Steve Austins, a adawodd y swydd ym mis Hydref.

Roedd Mr Paterson yn arfer gweithio fel uwch gynhyrchydd gyda Radio Wales, ac mae ganddo brofiad hefyd gyda gorsafoedd radio Red Dragon Radio, a Talk 107 yng Nghaeredin.

"Does neb yn cymharu gyda Colin o ran ei angerdd tuag at radio - ac mi wn fod ei brofiad helaeth yn y 大象传媒 a thu allan, yn mynd i fod o gymorth mawr i ni," meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru.

"Mae gan Colin un o'r meddyliau golygyddol mwyaf miniog yn y busnes a fedra'i ddim meddwl am unrhyw un fwy cymwys i ddechrau pennod gyffrous newydd yn natblygiad yr orsaf."