大象传媒

Ysgolion Caerdydd ar y brig yn rhestrau goreuon Cymru

  • Cyhoeddwyd
ysgol plasmawrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr sydd wedi dod i'r brig ymysg ysgolion gwladol Cymru eleni

Ysgolion o Gaerdydd sydd wedi cipio'r prif safleoedd yn rhestr ddiweddaraf The Sunday Times o'r ysgolion gwladol ac annibynnol gorau yng Nghymru.

Daeth Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr i'r brig ymysg yr ysgolion gwladol, gydag Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yn ail, ac Ysgol Gyfun Radur yn drydydd.

Ymysg yr ysgolion annibynnol, cafodd Coleg St John's ei henwi fel yr orau yng Nghymru am yr 17eg gwaith yn olynol, gyda disgyblion yn llwyddo i gael graddau A*, A neu B yn 96.6% o'u cyrsiau Lefel A.

Mae'r rhestrau yn cael eu llunio bob blwyddyn gan y papur newydd, ac yn cynnwys canlyniadau Lefel A a TGAU y 2,000 o ysgolion annibynnol a gwladol gorau yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Coleg St John's yn ardal Llaneirwg y brifddinas oedd y gorau o'r ysgolion annibynnol unwaith eto

Llwyddodd dwy ysgol newydd i ennill eu lle yn y 10 uchaf ymysg yr ysgolion gwladol yng Nghymru eleni - Ysgol Gyfun Radur, ac Ysgol Eirias o Fae Colwyn, oedd yn nawfed.

Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ddaeth i'r brig yn y canlyniadau Lefel A, gyda 68.7% o'r cyrsiau yn cael gradd A*-B, ac Ysgol Esgob Llandaf oedd 芒'r canlyniadau TGAU gorau gyda 40% yn raddau A* neu A.

Roedd Ysgol Plasmawr yn 182fed drwy Brydain ar restr The Sunday Times.

Llwyddodd Coleg St John's i godi chwe safle i 56ain ym Mhrydain yn 2016, yr uchaf o ysgolion annibynnol Cymru.

Mae ffioedd yr ysgol yn 拢2,500 y tymor i fabanod, gan godi i 拢4,500 erbyn i ddisgyblion gyrraedd y chweched dosbarth.

Ysgol Howell Llandaf, ysgol annibynnol i ferched, ddaeth yn ail yng Nghymru, a nhw oedd 芒'r canran uchaf (74.5%) o raddau A* ac A ar lefel TGAU.

Daeth Ysgol Rhuthun yn drydydd - yr ysgol annibynnol arall o Gymru yn y 100 uchaf ar draws Prydain.

Deg Uchaf - Ysgolion Gwladol

1. Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd

2. Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, Caerdydd

3. Ysgol Gyfun Radur, Caerdydd

4. Ysgol Gyfun Y Bont Faen, Y Bont Faen

5. Ysgol Uwchradd Crughywel, Crughywel

6. Ysgol Y Preseli, Crymych

7. Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin

8. Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt, Llanfair ym Muallt

9. Ysgol Eirias, Bae Colwyn

10. Ysgol Gyfun yr Olchfa, Abertawe

Deg Uchaf - Ysgolion Annibynnol

1. Coleg St John's, Caerdydd

2. Ysgol Howell Llandaf, Caerdydd

3. Ysgol Rhuthun, Rhuthun

4. Ysgol Ferched yr Haberdashers, Trefynwy

5. Ysgol y Gadeirlan Llandaf, Caerdydd

6. Ysgol St Michael's, Llanelli

7. Ysgol Trefynwy, Trefynwy

8. Ysgol Westbourne, Penarth

9. Coleg yr Iesu, Aberhonddu

10. Ysgol Rydal Penrhos, Bae Colwyn