大象传媒

Adfer cerosin wedi llygredd nant yn Sir Gaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
llygredd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymdrechion i atal cerosin rhag parhau i lygru d诺r afon

Mae nifer o asiantaethau sydd yn cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Valero yn credu bod y "rhan fwyaf" o'r 140,000 litr o gerosin a gafodd ei ollwng i nant yn Sir Gaerfyrddin bellach wedi ei adfer.

Mae'r cwmni sydd wedi cael ei gyflogi gan Valero wedi cael gwared ar werth 139,500 metr ciwbig o'r cerosin o nant Pibwr yn Nant-y-caws a'r ardaloedd cyfagos.

N么l yn mis Hydref, fe o bibell sydd wedi ei gosod o dan yr A48.

Dywedodd Ruth Mullen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd i Gyngor Sir Caerfyrddin a chadeirydd y gr诺p adfer: "Mae'n newyddion calonogol ac mae'n dangos bod yr ymateb amlasiantaeth i'r digwyddiad hwn yn gweithio'n dda."

Mae rhan o'r hen bibell dd诺r a ddifrodwyd, sydd bellach wedi ei thrwsio wedi cael ei selio ar y ddwy ochr, ac mae canlyniadau cychwynnol i brofion yn dangos mai dim ond ychydig o lygredd sydd ar 么l yn Nant Pibwr ac yn yr ardal o'i hamgylch.

"Byddwn yn parhau i fonitro'r ardal yn drylwyr a byddwn yn cydweithio i ddod 芒'r digwyddiad hwn i ben gan achosi cyn lleied o effaith 芒 phosibl ar yr amgylchedd, trigolion a busnesau," meddai Ruth Mullen.

Mae t卯m iechyd amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi asesu ansawdd yr a锚r a does dim disgwyl unrhyw effaith bellach.

Mae cynrychiolwyr y gr诺p cydgysylltu adferiad wedi cynnig dod i gyfarfod o Gyngor Cymuned Llangynnwr i ateb unrhyw gwestiynau gan gynghorwyr a'r cyhoedd.

Hefyd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr y gymuned bysgota leol.