大象传媒

Taw ar y tab诺

  • Cyhoeddwyd

Mae Rhiannon Kemp-Davies yn rhedeg cwmni unigryw yng Nghaerdydd, o'r enw 'That's the Spot'. Mae hi'n ymgynghorydd rhyw; yn cynnig cyngor i ferched a'u partneriaid yngl欧n 芒 rhyw, y corff a theganau rhyw.

Cafodd sgwrs onest 芒 Cymru Fyw yngl欧n 芒'r gwasanaeth.

Mae Rhiannon yn ddynes gyfeillgar, agored a hynod wybodus am ei phwnc. Rydych chi'n gyfforddus yn ei chwmni yn syth, sydd yn bwysig wrth drafod pwnc mae pobl yn gallu cael trafferth siarad amdano:

"Mae pa mor agored yw fy musnes weithiau yn ddieithr i fenyw a fyddai'n llawer gwell ganddi jest prynu dirgrynwr a gobeithio am y gorau. Y rhesymau pennaf am hyn, mae'n si诺r, yw ein magwraeth, addysg a'r math o gwmni rydyn ni'n ei gadw.

Ffynhonnell y llun, Rhiannon Kemp-Davies

"Does 'na'r un person wedi s么n wrtha i eu bod nhw wedi cael addysg rhyw anhygoel yn yr ysgol. Oes mae angen gwybod sut i wneud babi, ond beth am gael rhyw er mwyn pleser, sef beth mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n ei wneud y rhan fwyaf o'r amser?

"Chawson ni ddim ein dysgu sut i brofi pleser rhywiol, ac efallai ein bod ni hyd yn oed wedi clywed celwyddau fod cael mwynhad rhywiol yn brofiad anfoesol. Felly nid ein bai ni yw hi am beidio deall yn union sut mae ein cyrff yn gweithio, oherwydd chawson ni ddim ein dysgu am hyn."

Addysg rhyw

Dyna'n union yw bwriad Rhiannon - addysgu merched am sut yn union i wneud y mwyaf o'u cyrff a sut i gael pleser rhywiol - a gwneud hynny yn gwbl agored ac yn llai o tab诺. Mae hi hefyd yn cynnig sesiynau addysgu a sesiynau siarad cyhoeddus am yr angen yma i wella addysg rhyw.

"Wyddoch chi beth sydd wir yn helpu? Ei drafod a'i wneud yn rhan o'n geirfa. Peidio 芒 bod ofn dweud 'mastyrbio' a 'fylfa' (faint ohonoch chi ddarllenodd y geiriau yna a chael sioc?!)

"Mae defnyddio fy ngwasanaeth yn golygu bod angen bod yn ddigon hyderus i roi eich hunain mewn sefyllfa fregus, o bosib, ble rydych chi'n barod i ddysgu am y p诺er sydd gennych chi rhwng eich coesau. Mae ganddon ni fynediad at 15,000 terfyn nerf yn ac o amgylch y fylfa a'r clitoris, ond rydyn ni angen gwybod sut i'w cyrraedd!

"Mae hi'n oc锚 i roi eich llaw lan a dweud 'dwi erioed wedi cael orgasm oherwydd mod i ddim yn gwybod sut' neu 'dwi ddim yn defnyddio dirgrynwr achos ei fod e'n teimlo'n anghywir'.

Wastad wedi bod yn agored

"Dwi'n meddwl mai'r prif reswm pam mod i mor agored yw gan fod Mam mor agored pan soniodd hi wrtha i, pan o'n i'n 11 oed, am hunan-bleseru. Doedd 'na ddim embaras. Dywedodd hi nad oedd yna ddim yn bod ag e, cyn belled ei fod e'n breifat (ffin bwysig i'w hadnabod!)

"Ro'n i'n eithaf lwcus gyda fy mhartneriaid cyntaf, roedden nhw'n feddwl-agored ac yn cyfathrebu am ryw wnaeth sicrhau fod gen i agwedd bositif tuag at arbrofi gyda rhyw a deall caniat芒d. Cefais i fy magu i beidio 芒 theimlo cywilydd am ryw, a chefais addysg rhyw dda, ac yn sicr rydyn ni angen gwell addysg rhyw mewn ysgolion.

"Ers i mi 'ddod i oed', rydw i wastad wedi siarad yn hamddenol am rhyw a phleser, sydd wedi helpu eraill i ymlacio ac i gael sgyrsiau defnyddiol ac adeiladol am bleser rhywiol."

Math gwahanol o wasanaeth...

Mae Rhiannon yn cynnig ei gwasanaeth unigryw mewn nifer o ffyrdd gwahanol - o negeseuon blog ar ei gwefan (sy'n ymdrin 芒 phynciau megis polycystic ovaries, adolygiadau o deganau rhyw neu cael rhyw pan yn h欧n), sesiynau cynghori un i un, ac mae hi'n ymweld 芒 thai i gynnal 蝉辞颈谤茅别s gyda chriwiau, ble mae hi'n trafod a gwerthu teganau rhyw.

Ffynhonnell y llun, Rhiannon Kemp-Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhiannon yn siarad mewn digwyddiadau sy'n annog trafod rhyw yn agored

Mae hi hefyd yn medru gwneud hyn drwy'r Gymraeg. Efallai fod trafod y math yma o bwnc drwy'r Gymraeg yn ddieithr, ond prif nod Rhiannon yw i bawb fod yn gyfforddus, meddai.

"Er ei fod, ar yr olwg gyntaf, yn edrych fel cwmni teganau rhyw yn unig, prif bwrpas y busnes yw i helpu merched (a dynion) i ddeall y corff benywaidd, y pleser all ddod ohono, a'i ddefnyddio i'w lawn botensial."

Mae Rhiannon yn credu, yn absenoldeb addysg rhyw gyflawn mewn ysgolion, fod ganddi wasanaeth gwerthfawr i'w gynnig i'w chleientiaid:

"Un o'r camsyniadau mwyaf yw fod merched weithiau yn meddwl fod yna rhywbeth o'i le os allan nhw ddim cael orgasm trwy ryw treiddiol 芒 dyn. Mae llai na 30% o ferched yn gallu cael orgasm fel hyn yn unig, sy'n golygu fod 70% ohonon ni angen i'r clitoris gael ei gyffroi hefyd.

"Wyddoch chi fod y clitoris wedi ei ddylunio i roi pleser? Dyma ei unig swyddogaeth. Faint o derfynau nerfau sydd yn y pidyn? 4,000. Faint sydd yn y clitoris? 8,000!

"Does yna'r un rheswm i chi beidio 芒 chymryd mantais o hyn - dyna'i unig reswm dros fodoli, felly sut allwn ni anwybyddu hynny?!"