Blogiwr yn wynebu gwerthu t欧 i dalu costau achos enllib
- Cyhoeddwyd
Mae bosib y bydd rhaid i flogiwr wnaeth golli achos enllib yn erbyn prif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin werthu ei chartref i dalu costau cyfreithiol.
Mae Jaqui Thompson o Lanwrda yn wynebu bil o 拢190,000 ar 么l colli'r achos yn erbyn Mark James.
Fe wnaeth Mr James ddwyn ei achos ei hun am sylwadau gafodd eu gwneud ar flog Ms Thompson, a chafodd 拢25,000 mewn iawndal.
Ddydd Gwener, cafodd y cyngor orchymyn sy'n golygu efallai y bydd rhaid i Ms Thompson werthu ei chartref os nad yw'n gallu talu ei dyled.
Blog beirniadol
Cafodd Ms Thompson ei harestio yn 2011 ar 么l gwrthod rhoi'r gorau i ffilmio cyfarfod cyngor ar gyfer ei blog, ble'r oedd yn feirniadol o gynghorwyr.
Fe wnaeth hi ddwyn achos yn erbyn Mr James yn yr un flwyddyn, ond collodd yr achos ac roedd Mr James yn llwyddiannus yn ei achos ei hun yn ddiweddarach.
Daeth yr Uchel Lys i'r canlyniad bod Ms Thompson wedi bod yn "poeni a bygwth" Mr James.
Cafodd gostau llys Mr James eu talu gan y cyngor - penderfyniad oedd yn anghyfreithlon yn 么l Swyddfa Archwilio Cymru.
Yn siarad y tu allan i'r llys, dywedodd Ms Thompson: "Mae'n bosib y bydden nhw'n gweithredu'r gorchymyn ar unrhyw adeg. Gall fod yfory, neu mewn 10 mlynedd."