PISA: Cymru'n is na'r cyfartaledd rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Mewn astudiaeth ryngwladol o berfformiad addysg, roedd sg么r disgyblion Cymru mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg yn is na chyfartaledd y 72 o wledydd neu econom茂au oedd yn rhan o'r profion.
Doedd disgyblion Cymru ddim wedi gwneud cystal yn y profion 芒'u cyfoedion yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Disgyblion 15 oed wnaeth sefyll y profion y llynedd.
Mae profion PISA yn digwydd bob tair blynedd, a dyma'r pedwerydd tro yn olynol i Gymru berfformio'n waeth na gwledydd eraill y DU.
Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi cydnabod bod yna le i wella ond bod angen parhau gyda'r cynllun sydd wedi ei osod yn barod.
Fe ddywedodd Plaid Cymru bod y canlyniadau'n dangos bod llywodraethau Llafur wedi "methu, methu a methu eto" ac fe feirniadodd y Ceidwadwyr y llywodraeth am "ddegawd o dangyflawni".
Mae perfformiad disgyblion Cymru mewn profion gwyddoniaeth wedi dirywio, tra bod canlyniadau darllen a mathemateg wedi aros yn weddol debyg.
O fewn y DU, Lloegr ddaeth i'r brig mewn gwyddoniaeth a darllen, gan rannu'r brif safle mewn mathemateg gyda Gogledd Iwerddon.
Roedd 12% o ddisgyblion Lloegr wedi eu nodi fel y rhai mwyaf disglair mewn gwyddoniaeth, dim ond 5% o ddisgyblion Cymru wnaeth gyrraedd yr un safle.
Mae perfformiad Cymru mewn gwyddoniaeth yn debyg iawn i'r Ynysoedd Balearaidd - Mallorca, Menorca ac Ibiza - tra bod y sg么r ar gyfer darllen yn debyg i ddisgyblion o Dubai neu Buenos Aires yn Ariannin.
Mewn mathemateg, mae perfformiad disgyblion Cymru yn agos i'w cyfoedion yn Lithuania.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi mai dim ond 6% o'r gwahaniaethau mewn perfformiad disgyblion gall gael ei briodoli i statws economaidd-gymdeithasol, ffigwr sydd yn 11% yng ngweddill y DU.
Dadansoddiad Bethan Lewis, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru
Doedd y disgwyliadau ddim yn uchel ar gyfer y profion sy'n asesu gallu mathemateg, darllen a gwyddoniaeth plant 15 oed mewn dros 70 o wledydd.
Singapore, Japan ac Estonia sydd wedi dod i'r brig.
Ond y gymhariaeth gyda Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon fydd fwyaf siomedig i swyddogion a gweinidogion addysg Cymru.
Ar 么l canlyniadau gwael yn y gorffennol cafodd cyfres o ddiwygiadau eu cyflwyno ac mae'r rheini'n mynd 芒'r drefn i'r cyfeiriad cywir meddai'r llywodraeth.
Mae'r sg么r mathemateg wedi gwella rhywfaint - ond dim digon efallai i dawelu'r cwestiynau am ein system ysgolion.
'Mwy i'w wneud'
Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi cydnabod nad ydy Cymru "ble rydym ni eisiau bod eto."
"Er bod ein sg么r mathemateg 10 pwynt yn uwch, mae'r canlyniadau ar gyfer gwyddoniaeth yn siomedig.
"Fis diwethaf, gwnes i wahodd yr OECD i edrych ar sut rydym ni'n ei wneud yng Nghymru. Roedd eu cyngor yn ddiamwys: Daliwch ati, byddwch yn ddewr, rydych yn gwneud y pethau iawn.
"Mae'r gwaith caled wedi dechrau. Mae gennym gynlluniau mewn lle i ddatblygu gweithlu proffesiynol ardderchog a chwricwlwm newydd ac rydym yn cyflwyno cymwysterau cynhwysfawr a fydd yn cael eu parchu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
"Ond rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud."
Dywedodd hefyd y byddai yn hawdd dechrau o'r dechrau gyda chynllun newydd ond ei bod hi'n mynd i gymryd amser nes y bydd y newidiadau wedi dwyn ffrwyth.
'Methu, methu a methu eto'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Llyr Gruffydd AC, bod y canlyniadau'n dangos bod llywodraethau Llafur yn y Cynulliad wedi "methu, methu a methu eto pan ddaw'n fater o sicrhau dyfodol ein plant".
"Ar 么l 17 mlynedd o lywodraeth dan arweiniad Llafur, mae Cymru yn parhau i fod ar 么l gweddill y DG o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth am y pedwerydd tro yn olynnol," meddai.
Ond ychwanegodd y dylai Kirsty Williams ddal ati gyda'r newidadau sydd ar y gweill.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i'r canlyniadau wrth gyhuddo Llywodraeth Cymru o "ddegawd o dangyflawni" sy'n "sgandal".
"Er yr holl siarad a'r addewidion i wneud yn well gan y Prif Weinidog, mae ffigyrau heddiw'n ein rhoi ni unwaith eto yn hanner gwaelod y tablau addysg byd eang, ac yn cadarnhau statws Cymru fel y wlad sydd wedi perfformio waethaf yn y DU," meddai Darren Millar.
"Mae'r ffaith bod ein canlyniadau yn 2015 yn waeth na 2006 yn golygu bod 'na ddegawd o dangyflawni wedi bod ac mae'n sgandal enfawr."
Dywedodd y dylai'r llywodraeth, "gychwyn o'r cychwyn i ddatblygu strategaeth eglur gyda thargedau allwn eu mesur er mwyn trawsnewid y perfformiad".
Dweud ei fod yn siomedig bod Cymru dal ar ei hol hi wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mark Williams.
Ond mynnodd bod Kirsty Williams yn debol i wynebu'r her a'i bod yn gyrru newidiadau sydd eu hangen: "Mae angen i Gymru nawr sticio gyda chynllun Kirsty wnaiff gyflawni'r system addysg mae ein pobl ifanc a'r wlad angen ac yn haeddu."