大象传媒

Cynllun hydro Bethesda yn 'chwyldro yn y byd ynni'

  • Cyhoeddwyd
Bethesda

Bethesda yng Ngwynedd yw'r gymuned gynta' ym Mhrydain i dreialu model newydd, arloesol o brynu trydan.

Y bwriad yw helpu teuluoedd fedru talu am b诺er sy'n dod fwy neu lai yn uniongyrchol o brosiectau ynni adnewyddadwy yn eu hardal leol.

Bydd trydan, sy'n cael ei gynhyrchu o gynllun hydro ar yr afon Berthen, yn cael ei rannu ymysg aelodau "clwb ynni" o dros gant o dai.

Y gobaith yw y bydd yr arbrawf yn torri biliau cwsmeriaid ac yn lleihau allyriadau carbon.

Lledu os yn llwyddo

Mae nifer o gyrff wedi bod ynghlwm 芒 sefydlu'r peilot, fydd yn cael ei ledu i ardaloedd eraill ar draws Cymru os yw'n llwyddiant.

Ar hyn o bryd mae cynlluniau ynni cymunedol yn allforio'u trydan i rwydweithiau dosbarthu cenedlaethol a'r grid ehangach, gyda'r ynni yn cael ei wasgaru ar draws Prydain.

Nod yr arbrawf yma yw sicrhau bod cymaint 芒 phosib o'r trydan yna'n cael ei ddefnyddio yn lleol.

Felly sut ma' cynllun Bethesda yn gweithio?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn y cwt yma yn Nyffryn Ogwen, ryw filltir o Fethesda mae'r hydro yn cael ei gadw

Bydd trydan sy'n cael ei gynhyrchu gan yr hydro yn cael ei rannu rhwng aelodau'r clwb sy'n defnyddio ynni ar y pryd.

Bydd pob t欧 yn talu 7c/kWa am eu cyfran nhw o'r ynni hwnnw. Ma' hynny tua hanner y pris cyfartalog yn y DU, ond yn fwy na fyddai'r hydro yn ei dderbyn fel arfer am ei werthu.

Bydd y tai yn derbyn mesuryddion clyfar ac aelodau o'r clwb yn cael cynnig ap ar eu ff么n neu dabled i fonitro'u defnydd o drydan a gweld pryd mae'r hydro yn gweithredu.

Er mwyn gwneud y mwyaf o'r cynllun bydd angen i bobl newid eu harferion fel bod eu defnydd tryma' o drydan yn ystod cyfnodau pan fo'r hydro yn cynhyrchu - fel ar 么l cyfnod o law.

Mae'r sawl sy'n gyfrifol am y peilot yn credu y bydd modd i bob cartref arbed rhwng 10-30% ar eu biliau trydan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y peiriant hydro

Yn 么l Dr Mary Gillie o Energy Local, sy'n cydlynu'r arbrawf, mae'r peilot yn rhoi cyfle i bobl Bethesda fanteisio ar yr "adnoddau adnewyddadwy anhygoel o'u hamgylch".

"Yr hyn sy'n arbennig am y prosiect yw'r ffordd mae'n caniat谩u i drydan sy'n cael ei gynhyrchu yn lleol gael ei rannu ymysg y gymuned - fyddan nhw'n darparu arian o'u biliau nhw i gynnal yr hydro - ond hefyd yn cael pris gostyngedig ar yr un pryd.

"Mae pawb yn ennill!"

Ar y dechrau mae'r pentrefwyr yn gweithio gyda hydro'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar yr Afon Berthen ond maen nhw hefyd wedi bod yn codi arian ac yn adeiladu hydro eu hunain hefyd.

Dywedodd Keith Jones, Ymgynghorydd Amgylcheddol yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru ei fod wedi'i synnu'n llwyr gan y diddordeb yn y cynllun ar draws y DU.

"Dwi'n derbyn galwadau ff么n ac e-byst yn wythnosol," meddai. "Mae pobl yn benderfynol o gadw'r buddion o gynhyrchu trydan yn lleol."

Disgrifiad,

Keith Jones sydd yn esbonio sut mae'r hydro yn gweithio

Y cwmni Cooperative Energy sy'n prynu trydan yr hydro a'i werthu i'r tai sy'n cymryd rhan yn y peilot.

Dywedodd Mark Billsborough o'r cwmni ei bod hi wedi bod yn "anodd iawn cael y prosiect i weithio" a'i fod yn "wirioneddol arloesol".

"O fewn y sector ynni cymunedol mae gyda ni bobl yn siarad gyda ni'n gyson am y cynllun yma. Maen nhw wir isie gweld eu buddsoddwyr a'r gymuned leol yn gallu prynu trydan yn uniongyrchol o'u safle.

"A dyma'r peth agosa' sydd gyda ni hyd yma i hynny. Mae'n gam enfawr i'r dyfodol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cathrin Llywelyn yn rhan o'r arbrawf

Y gobaith mawr, yn 么l arbenigwyr ynni, yw y bydd cynlluniau fel yr un yma yn helpu cwsmeriaid ddod yn fwy cydwybodol yngl欧n 芒'u defnydd o ynni.

Mae Cathrin Alwen Llywelyn yn un o'r bobl sy'n cymryd rhan yn yr arbrawf ym Methesda.

"Da ni gyd yn mynd i arbed arian ar ein biliau sy'n newydd da i bawb - dwi'n gweithio o adre felly yn defnyddio andros o lot o ynni - ond yn ogystal 芒 hynny da ni'n cynhyrchu ynni gwyrdd sydd yn dda i'r amgylchedd.

Chwyldro yn y byd ynni

"Fel mam i dri o blant mae'n hollbwysig i fi ein bod ni'n meddwl at y dyfodol.

"Ma' pawb wedi dod at ei gilydd - 'dan ni'n fwy ymwybodol o'r ynni 'dan ni'n defnyddio ac wrth gwrs yn mynd i fod yn gwneud dewisiadau deallus o hyn ymlaen."

Disgrifiodd Dr Gillie y cynllun fel "chwyldro yn y byd ynni fydd yn gosod Bethesda ar y map".